1Iehofah sy’n teyrnasu, ardderchowgrwydd a wisgodd Efe,
Gwisgodd Iehofah nerth, ymwregysodd (âg ef);
A sicrhâwyd y byd fel na syflo:
2Sicr (yw) Dy orseddfaingc erioed,
Er tragywyddoldeb Tydi (ydwyt)!
3Dyrchafodd yr afonydd, O Iehofah,
Dyrchafodd yr afonydd eu llais,
Dyrchafodd yr afonydd eu twrf:
4Rhagor lleisiau dyfroedd lawer,
Y mawrydigion,—(rhagor) beisdonau’r môr,
Yn fawrydig, yn yr uchelder, (y mae) Iehofah!
5Dy gynreithiau ynt dra sicr,
I’th dŷ Di y gwedda sancteiddrwydd,
O Iehofah, dros hir ddyddiau!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.