Yr Actau 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt oll ynghyd yn yr un lle.

2A daeth yn ddisymmwth o’r nef swn fel o wynt nerthol yn rhuthro, a llanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn aros:

3ac ymddangosodd iddynt dafodau yn ymhollti, fel o dân, ac eisteddodd efe ar bob un o honynt:

4a llanwyd hwy oll â’r Yspryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill fel yr oedd yr Yspryd Glân yn rhoddi ymadrodd iddynt.

5Ac yr oedd yn Ierwshalem Iwddewon a drigent yno, gwŷr crefyddus, o bob cenedl dan y nef.

6Ac wedi digwydd o’r llais hwn, daeth y lliaws ynghyd a dyryswyd hwynt, canys clywent, bob un, hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun.

7A synnasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn y sy’n llefaru, yn Galileaid?

8A pha fodd yr ydym ni yn clywed, bob un yn ein hiaith ein hun yn yr hon y’n ganed ni?

9Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a’r rhai yn trigo yn Mesopotamia, ac Iwdea, a Cappadocia, Pontus, ac Asia,

10Phrugia a Phamphulia, yr Aipht, a pharthau Libua gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iwddewon a phroselytiaid,

11Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ni weithredoedd mawrion Duw.

12A synnasant oll, a dyryswyd hwynt, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Pa beth a fyn hyn fod?

13Ond eraill, gan watwar, a ddywedasant, A gwin newydd y gor-lanwyd hwynt.

14A Petr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gododd ei lais, ac a ddywedodd wrthynt, Gwyr o Iwddewon, a’r oll sy’n trigo yn Ierwshalem, bydded hyn yn hysbys i chwi,

15a rhoddwch glust i’m hymadroddion: canys nid yw y rhai hyn, fel yr ydych chwi yn tybied, yn feddwon, canys y drydedd awr o’r dydd yw hi:

16eithr hyn yw’r hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd Ioel,

17“A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Iehofah, y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd,

A phrophwyda eich meibion ac eich merched

A’ch gwŷr ieuaingc, gweledigaethau a welant,

Ac eich henafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant.

18Ac ar Fy ngweision a’m llawforwynion yn y dyddiau hyny

Y tywalltaf o’m Hyspryd, a phrophwydant.

19A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod,

Gwaed, a thân, a tharth mwg;

20Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed,

Cyn dyfod o ddydd Iehofah, y dydd mawr a hynod.

21A bydd, pob un a alwo ar enw Iehofah fydd gadwedig.”

22Gwŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Natsaread, Gŵr a gymmeradwywyd gan Dduw yn eich plith trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw Trwyddo Ef yn eich canol, fel y gwyddoch eich hunain;

23Hwn, wedi Ei roddi i fynu trwy derfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, trwy ddwylaw dynion drygionus,

24gan Ei groes-hoelio, a laddasoch: Hwn, Duw a’i cyfododd, gan ddattod gofidiau angau, canys nid oedd bosibl Ei attal ganddo, canys Dafydd a ddywaid am Dano,

25“Gwelais Iehofah ger fy mron yn wastadol;

Canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger:

26Am hyny y llawenychodd fy nghalon, a gorfoleddodd fy nhafod,

Ac fy nghnawd hefyd a drig mewn gobaith,

27Gan na adewi fy enaid yn Hades

Ac na chaniattei i’th Sanct weled llygredigaeth.

28Hyspysaist i mi ffyrdd y bywyd;

Llenwi fi o lawenydd ger Dy fron.”

29Gwŷr frodyr, gan allu o honof ddweud yn hyderus wrthych am y patriarch Dafydd y bu efe farw a’i gladdu, ac ei feddrod sydd gyda ni hyd y dydd hwn;

30am hyny, gan fod yn brophwyd ac yn gwybod mai â llw y tyngasai Duw iddo i osod o ffrwyth ei lwynau ef ar ei orsedd,

31gan rag-weled y llefarodd am adgyfodiad Crist, “Ni adawyd Ef yn Hades,”

32ac “Ei gnawd Ef ni welodd lygredigaeth.” Yr Iesu Hwn a gyfododd Duw; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion.

33Gan hyny, wedi Ei ddyrchafu trwy ddeheulaw Duw, ac wedi derbyn addewid yr Yspryd Glân gan y Tad, tywalltodd allan y peth hwn yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed:

34canys nid Dafydd a esgynodd i’r nefoedd, ond dywaid ei hun,

“Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,

35Hyd oni osodwyf Dy elynion yn droed-faingc i’th draed.”

36Gan hyny, sicr-wybydded holl dŷ Israel mai yn Arglwydd ac yn Grist y gwnaeth Duw Ef, yr Iesu Hwn, yr Hwn chwychwi a’i croes-hoeliasoch.

37Wedi clywed hyn, pigwyd hwy yn eu calon, a dywedasant wrth Petr a’r apostolion eraill, Pa beth a wnawn, frodyr?

38A Petr a ddywedodd, wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant eich pechodau: a derbyniwch ddawn yr Yspryd Glân;

39canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i’r holl rai sydd ymhell, cynnifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni Atto.

40Ac â geiriau eraill lawer y tystiolaethodd efe, ac y’u cynghorodd, gan ddywedyd, Achubwch eich hunain oddiwrth y genhedlaeth wyrog hon.

41Rhai, gan hyny, wedi derbyn ei ymadrodd, a fedyddiwyd; ac ychwanegwyd attynt y dwthwn hwnw ynghylch tair mil o eneidiau:

42ac yr oeddynt yn parhau yn nysgad yr apostolion, ac ynghymmundeb, ac yn nhorriad y bara a’r gweddïau.

43Ac yr oedd ar bob enaid ofn; a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaed gan yr apostolion;

44a’r holl rai a gredent oeddynt ynghyd; ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin;

45ac eu meddiannau a’u heiddo a werthent, a rhannent hwynt i bawb, fel yr oedd neb ag eisiau arno.

46A pheunydd yn parhau ag un meddwl, yn y deml, ac yn torri bara gartref, y cymmerent eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon,

47gan foli Duw, ac yn cael ffafr gyda’r holl bobl. A’r Arglwydd a ychwanegodd attynt beunydd y rhai oedd yn cael eu hachub.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help