I. Timotheus 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Henafgwr na ddwrdia, eithr cynghora ef fel tad; y rhai ieuengach fel brodyr;

2y gwragedd hynach fel mammau; y rhai ieuengach fel chwiorydd, gyda phob purdeb.

3Gwragedd gweddwon anrhydedda, y rhai sydd weddwon mewn gwirionedd.

4Ond os rhyw wraig weddw sydd a chanddi blant neu ŵyrion, dysgont yn gyntaf arfer duwioldeb tuag at eu teulu eu hunain, a thalu yn ol i’w rhieni, canys hyn sydd gymmeradwy ger bron Duw.

5Ac y weddw mewn gwirionedd, ac yn amddifad, a obeithia yn Nuw,

6a pharhau y mae mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd; ond y drythyll, tra yn fyw, marw yw.

7A’r pethau hyn gorchymyn fel y byddont ddiargyhoedd.

8Ac os tros ei bobl ei hun, ac yn enwedig y rhai o’i dŷ, na ddarbod neb, y ffydd a wadodd efe, ac y mae yn waeth nag anghredadyn.

9Megis gweddw cofrestrer yr hon nad yw lai na thri ugain mlwydd oed, a fu wraig i un gŵr,

10mewn gweithredoedd da y tystiolaethir iddi, os dygodd blant i fynu, os bu letteugar, os traed y saint a olchodd, os y rhai cystuddiol a gynnorthwyodd, os pob gweithred dda a ddilynodd hi.

11Ond gweddwon ieuengach gwrthod; canys pan anlladont yn erbyn Crist, priodi a ewyllysiant,

12a chanddynt gondemniad, gan mai eu ffydd gyntaf a ddirmygasant,

13ac hefyd dysgant fod yn ddiog, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, eithr hefyd yn wag-siaradus ac yn ofer-lafurus, gan lefaru’r pethau na ddylid.

14Mynnaf, gan hyny, i’r rhai ieuengach briodi, planta, gwarchod y tŷ, peidio â rhoi dim achlysur i’r gwrthwynebwr o ran difenwi;

15canys eisoes rhai a droisant ymaith ar ol Satan.

16Os oes rhyw wraig sy’n credu a chanddi wragedd gweddwon, cynnorthwyed hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys, fel y gwragedd gweddwon mewn gwirionedd y cynnorthwyo.

17Yr henuriaid sy’n llywodraethu yn dda, cyfrifer hwynt yn deilwng o barch dau-ddyblyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio yn y Gair a’r dysgad;

18canys dywaid yr Ysgrythyr, “Ych tra y dyrna, ni safn-rwymi;” ac, “Haeddu ei gyflog y mae’r gweithiwr.”

19Yn erbyn henuriad na dderbyn gyhuddiad oddieithr dan ddau neu dri o dystion.

20Y rhai sy’n pechu, argyhoedda yngwydd pawb, fel y bo’r lleill ag ofn arnynt.

21Gorchymynaf ger bron Duw a Christ Iesu a’r angylion etholedig, gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.

22Dwylaw na ddod ar frys ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau dynion eraill; dy hun cadw di yn bur.

23Nac yf ddwfr yn hwy, eithr ychydig win arfera er mwyn dy gylla a’th fynych wendidau.

24Rhai dynion sydd a’u pechodau yn amlwg, ac yn myned o’r blaen i farn; ac i rai hefyd y canlynant ar eu hol.

25Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg; a’r rhai sydd amgenach, eu cuddio ni ellir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help