1Hymn o eiddo Dafydd, yr hon a ganodd efe i Iehofah o achos Cwsh y Beniaminiad.
2Iehofah fy Nuw, ynot Ti yr ymddiriedaf,
Gwared fi rhag fy holl erlidwyr, ac achub fi,
3Rhag llarpio o honaw fy enaid, fel llew,
Gan rwygo heb neb i achub.
4Iehofah fy Nuw, os gwneuthum y peth hwn,
Od oes anghyfiawnder yn fy llaw,
5Os attelais i ’m cyfaill ddrwg,
—Ië, achubais y gelyn dïachos i mi,—
6Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded,
A sathred efe fy mywyd i ’r llawr,
A ’m gogoniant, yn y llwch pared efe iddo anneddu!
7Cyfod, Iehofah, yn Dy ddig,
Ymddyrcha mewn llidiowgrwydd yn erbyn fy ngelyn!
Deffro drosof! barn a orchymynaist,
8A chynnulledfa ’r bobloedd sy’n Dy amgylchu,
Ac er ei mwyn hi dychwel i ’r uchelder!
9Iehofah sy’n barnu ’r bobloedd:
Barn fi, O Iehofah!
Yn ol fy nghyfiawnder, yn ol fy niniweidrwydd (bydded) arnaf!
10Darffdded, attolwg, ddrygioni yr annuwiol,
Eithr sefydla Di y cyfiawn!
Canys chwilio’r calonnau a ’r arennau (y mae) ’r Duw cyfiawn.
11Fy nharian (sydd) gyda Duw,
Iachawdwr y rhai uniawn o galon;
12Duw, Barnydd cyfiawn (yw),
Ië, Duw a lidia bob dydd.
13Yn ddïau y dychwel, a ’i gleddyf a hoga efe,
Ei fwa a dynn efe, ac a ’i hannela;
14Parottôdd iddo arfau angheuol,
Ei saethau a wnaeth efe yn danllyd;
15Ond wele, ymddwg efe ar wegi,
Beichiogodd ar gamwedd, ac esgora ar dwyll;
16Pwll a dorrodd efe ac a ’i trychodd,
A syrth efe i ’r pydew a ’r a wnaeth;
17Ymchwel a wna ei gamwedd ar ei ben ei hun,
Ac ar ei goppa ei hun ei drais a ddisgyn.
18Clodforaf Iehofah yn ol Ei gyfiawnder,
A chanaf enw Iehofah, y Goruchaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.