1Onid yw Doethineb yn galw,
A Deall yn rhoddi allan ei llais?
2Ym mhen lleoedd uchel, ger llaw ’r ffordd,
Ynghanol y llwybrau, y mae hi ’n gorsafu;
3Ger llaw ’r pyrth, wrth enau ’r ddinas,
Wrth dryddedau’r dorau, y mae hi’n llefain, (sef)
4“Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi ’n galw,
A ’m llais (sydd) at feibion dynion;
5Deallwch, o syml rai, gallineb,
A chwi ynfydion, perwch i’(ch) calon ddeall;
6Gwrandêwch, canys pethau ardderchog a draethaf,
Ac agoriad fy ngwefusau (a adrodd) bethau uniawn;
7Gwirionedd a fyfyria taflod fy ngenau,
A ffieidd-dra gan fy ngwefusau (yw) drygioni;
8Mewn cyfiawnder (y mae) holl eiriau fy ngenau,
Nid (oes) ynddynt ŵyrni a thrawsedd,
9Hwynt oll (ydynt) amlwg i ’r deallgar,
Ac yn uniawn i ’rhai sy ’n ceisio gwybodaeth;
10Cymmerwch fy athrawiaeth, ac nid arian,
A gwybodaeth yn hytrach nag aur profedig,
11Canys gwell doethineb na pherlau,
A ’r holl bethau dymunawl nid ŷnt gystal â hi;
12Myfi Doethineb wyf breswylydd callineb,
A gwybodaeth dyspwyll yr wyf yn ei chael allan.
13Ofn Iehofah (yw) cashâu drygioni;
Balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus,
A genau gŵyr-dröad, yr wyf yn eu cashâu:
14I mi (y perthyn) cynghor a synwyr,
Myfi (wyf) ddeall, i myfi (y perthyn) nerth;
15Trwof fi y mae brenhinoedd yn frenhinoedd,
A phennaethiaid a ddeddfant uniondeb;
16Trwof fi y mae tywysogion yn dywysogion,
A phendefigion (yw) holl farnwyr uniondeb;
17Myfi—fy ngharwyr yr wyf yn eu caru,
A ’r sawl a ’m diwyd-geisiant a ’m cânt:
18Golud ac anrhydedd (sydd) gyda mi,
Cyfoeth hir-hoedlog, a chyfiawnder;
19Gwell fy ffrwyth i nag aur, ïe, nag aur pur,
A ’m cynnyrch nag arian detholedig:
20Yn ffordd cyfiawnder yr wyf yn rhodio,
Ac ynghanol llwybrau uniondeb,
21Er mwyn peri o honof i ’m carwyr etifeddu eiddo,
A llenwi o honof eu trysorau:
22Iehofah a’m crëodd i, dechreuad Ei waith,
O flaen Ei weithredoedd yn hir;
23Er tragywyddoldeb yr eneinniwyd fi,
Er y dechreuad, cyn cyntefigiad y ddaear;
24Pryd nad (oedd) y dyfnderau y ’m ganwyd i,
Pryd nad (oedd) y ffynhonnau llwythog o ddwfr;
25Cyn i ’r mynyddoedd gael eu suddo,
O flaen y bryniau, y ’m ganwyd i,
26Pryd na wnaethai Efe ’r tir, a ’r anial leoedd,
A dechreuad llwch y byd:
27Pan sefydlodd Efe ’r nefoedd, yno (yr oeddwn) i,
Pan ddeddfodd gylch ar wyneb y gorddyfnderau:
28Pan gadarnhâodd Efe ’r cymmylau oddi uchod,
Pan y nerthwyd ffynhonnau ’r gorddyfnderau,
29Pan roddes Efe i ’r môr Ei ddeddf,
Ac i ’r dyfroedd, na throseddent Ei air Ef,
Pan ddeddfodd Efe sylfeini ’r ddaear,
30Yna yr oeddwn i wrth Ei ymyl Ef, yn feithyn,
Ac yr oeddwn yn hyfrydwch Iddo ddydd (ar ol) dydd,
31Yn ymddifyru yn nhir Ei ddaear Ef,
A ’m hyfrydwch (oedd) gyda meibion dynion;
32Yr awr hon gan hynny, feibion, gwrandêwch arnaf fi,
A gwỳn eu byd a gadwont fy ffyrdd,
33Gwrandêwch athrawiaeth a byddwch ddoethion,
Ac nac ymwrthodwch â hi;
34Gwỳn ei fyd a wrandawo arnaf fi,
Gan wylio wrth fy nrysau ddydd (ar ol) dydd,
Gan warchad wrth byst fy mhyrth i,
35Canys y neb a ’m caffo a gaiff fywyd,
Ac a dderbyn ffafr gan Iehofah;
36Ond a becho i ’m herbyn, sy ’n treisio ei enaid,
A phawb a ’m cashâont sy ’n caru angau.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.