1Eiddo Dafydd.
Bendigedig (fo) Iehofah, fy Nghraig,
Yr Hwn a ddysgodd fy nwylaw i’r frwydr,
(A)’m bysedd i’r rhyfel,
2Fy Nhrugaredd a’m Hamddiffynfa,
Fy Uchelfa, a’m Gwaredydd i mi,
Fy Nharian, ac ynddo Ef yr ymddiriedais,
Yr Hwn sy’n darostwng fy mhobl danaf!
3O Iehofah, beth (yw) daearolyn, fel y cydnabyddit ef,
(A) mab dyn, fel y gwnait gyfrif o hono?
4Daearolyn,—i anadl y mae efe’n debyg,
Ei ddyddiau (ŷnt) fel cysgod sy’n myned heibio!
5O Iehofah, gostwng y nefoedd a disgyn,
Cyffwrdd â’r mynyddoedd,—a mygant hwy;
6Mellt a fellteni a gwasgeri hwynt,
Danfon Dy saethau a tharfa hwynt;
7Danfon Dy law oddi uchod,
Achub fi, a gwared fi o’r dyfroedd lawer,
O law plant yr estron,
8Y rhai y mae eu genau yn llefaru gauair,
A’u deheulaw (sy) ddeheulaw celwydd!
9O Dduw, cân newydd a ganaf i Ti,
Ar y nabl ddectant y tarawaf y tannau i Ti,
10Yr Hwn (wyt) yn rhoddi buddugoliaeth i frenhinoedd;
Yr Hwn (sy)’n gwaredu Dafydd Ei was oddi wrth y cleddyf drwg!
11Gwared fi ac achub fi o law plant yr estron,
Y rhai y mae eu genau yn llefaru gauair,
A’u deheulaw (sy) ddeheulaw celwydd!
12Fel (y bo) ein meibion fel planwydd, wedi tyfu i fynu yn eu hieuengctid;
Ein merched fel congl-golofnau naddedig (yn ol) cynllun teml;
13Ein celloedd yn llawn, yn dwyn allan o fath i fath;
Ein defaid yn dwyn miloedd, yn fyrddoedd yn ein porfëydd;
14Ein buwchod yn gyflo;
Heb rwyg, ac heb fyned allan,
Ac heb waedd yn ein heolydd!
15Gwŷn fyd y bobl (y mae) felly iddynt,
Gwŷn fyd y bobl (y mae) Iehofah yn Dduw iddynt!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.