Rhufeiniaid 6 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Arhoswn mewn pechod fel y bo i ras amlhau?

2Na atto Duw. Ni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y byddwn fyw etto ynddo?

3Ai heb wybod yr ydych mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, i’w farwolaeth Ef y’n bedyddiwyd?

4Cyd-gladdwyd ni, gan hyny, gydag Ef trwy farwolaeth, er mwyn fel y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y byddai i ninnau hefyd rodio yn newydd-deb buchedd;

5canys os ein cyd-uno ag Ef a fu i ni trwy gyffelybiaeth Ei farwolaeth Ef, trwy gyffelybiaeth Ei adgyfodiad hefyd y byddwn felly;

6gan wybod hyn y bu i’n hen ddyn ni ei groes-hoelio gydag Ef, fel y dirymmid y corph pechadurus er mwyn na wasanaethom bechod mwyach,

7canys yr hwn a fu farw a ollyngwyd yn rhydd oddiwrth bechod.

8Ac os buom feirw gyda Christ, credwn y byddwn fyw hefyd gydag Ef,

9gan wybod nad yw Crist, ar ol Ei gyfodi o feirw, yn marw mwyach, marwolaeth nid arglwyddiaetha arno mwyach:

10canys yn yr hyn y bu Efe farw, i bechod y bu farw unwaith am oll; ond yn yr hyn y bu Efe fyw,

11byw y mae i Dduw; felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu.

12Na theyrnased pechod, gan hyny, yn eich corph marwol fel yr ufuddhaoch i’w chwantau ef;

13ac na roddwch eich aelodau, yn arfau anghyfiawnder, i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, fel rhai o feirw yn fyw, a’ch aelodau,

14yn arfau cyfiawnder i Dduw: canys pechod, arnoch chwi nid arglwyddiaetha, canys nid ydych tan y Gyfraith, eithr tan ras.

15Pa beth, gan hyny? Ai pechu a wnawn, o herwydd nad ydym tan y Gyfraith, eithr tan ras?

16Na atto Duw. Oni wyddoch mai i’r hwn y rhoddwch eich hunain yn weision er ufudd-dod, gweision ydych i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo, pa un bynnag ai gweision pechod i farwolaeth; neu weision ufudd-dod, i gyfiawnder?

17Ond diolch i Dduw, y buoch weision pechod, ond ufuddhasoch o’r galon i’r ffurf o ddysgad a draddodwyd i chwi;

18ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod y’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.

19Yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd o herwydd gwendid eich cnawd; canys fel y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder er sancteiddiad.

20Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych tuag at gyfiawnder.

21Pa ffrwyth, gan hyny, oedd i chwi y pryd hwnw yn y pethau y mae arnoch yn awr gywilydd o’u plegid, canys eu diwedd hwy yw marwolaeth?

22Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae genych eich ffrwyth i sancteiddiad,

23a’r diwedd yn fywyd tragywyddol; canys cyflog pechod yw marwolaeth, ond dawn Duw yw bywyd tragywyddol yn Iesu Grist ein Harglwydd ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help