1A phan agorodd y seithfed sel, bu distawrwydd yn y nef am oddeutu hanner awr;
2a gwelais y saith angel, y rhai sydd ger bron Duw yn eu sefyll; a rhoddwyd iddynt saith udgorn.
3Ac angel arall a ddaeth, a safodd ar yr allor, a chanddo thusser aur; a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer fel y’i rhoddai at weddïau y saint oll, ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd-faingc.
4Ac esgynodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law’r angel, ger bron Duw.
5A chymmerodd yr angel y thusser, a llawn-llenwodd hi o dân yr allor, a bwriodd hi ar y ddaear; a bu taranau, a lleisiau, a mellt, a daeargryn.
6A’r saith angel, y rhai oedd a chanddynt y saith udgorn, a ymbarottoisant i udganu.
7A’r cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymmysgu â gwaed, a bwriwyd hwy ar y ddaear; a thraian y ddaear a lwyr-losgwyd, a thraian y coed a lwyr-losgwyd, a’r holl laswellt a lwyr-losgwyd.
8A’r ail angel a udganodd, ac fel pe bai mynydd mawr, a thân yn ei losgi ef, a fwriwyd i’r môr; ac aeth traian y môr yn waed;
9a bu farw traian y creaduriaid a oedd yn y môr, y rhai oedd a chanddynt fywyd; a thraian y llongau a ddinystriwyd.
10A’r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel llusern; a syrthiodd ar draian yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd.
11Ac enw’r seren a elwir Wermod; ac aeth traian y dyfroedd yn wermod, a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, gan mai yn chwerwon y’u gwnaethpwyd.
12A’r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y ser, fel y tywyllid eu traian; ac na fyddai i’r dydd lewyrchu, am ei draian; ac y nos yr un ffunud.
13A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg ynghanol y nef, yn dywedyd â llef fawr, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill yr udgorn, o eiddo’r tri angel y sydd ar fedr udganu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.