Iöb 42 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XLII.

1Yna yr attebod Iöb i Iehofah, a dywedodd,

2Gwn mai pob peth a elli Di,

Ac nad oes rwystr arnat Ti am ddim amcan.

3 “Pwy yw ’r hwn sy’n cuddio cynghor, heb wybodaeth?”

Gan hynny — lleferais, ond heb i mi ddeall,

Bethau rhŷ ryfedd i mi, ond nid oeddwn yn ei wybod.

4Gwrando, attolwg, a myfi a lefaraf;

“Gofynaf i ti, a gwna dithau i Mi wybod:”

5Gyda chlyw y glust y clywn am danat Ti,

Ond yn awr fy llygad a’th welodd;

6Am hynny, ymwrthod yr wyf (a’m geiriau) ac edifarhâu

Mewn llwch a lludw!

7A bu, wedi dywedyd o Iehofah y geiriau hyn wrth Iöb, i Iehofah ddywedyd wrth Eliphaz y Temaniad, “Ennynu y mae Fy nigofaint yn dy erbyn di ac yn erbyn dy ddau gyfaill, canys ni ddywedasoch am danaf Fi yr (hyn sydd) uniawn, fel Fy ngwas Iöb;

8Ac yn awr cymmerwch chwi saith o deirw ieuaingc a saith o hyrddod, ac ewch at Fy ngwas Iöb, a pherwch offrymmiad poeth ofirwm drosoch chwi, a bydded i Fy ngwas Iöb weddïo drosoch chwi, canys ei wyneb ef a dderbyniaf Fi, fel na ddygwyf i ben arnoch gospedigaeth (eich) ffolineb, am na ddywedasoch am danaf Fi yr (hyn sydd) uniawn, fel Fy ngwas Iöb.”

9Yna yr aeth Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Shwhiad, (a) Tsophar y Naamathiad, ac y gwnaethant fel y dywedasai Iehofah wrthynt, a derbyniodd Iehofah wyneb Iöb.

10Ac Iehofah a ddug yn ol yr hyn a ddygpwyd oddi wrth Iöb, am iddo weddïo dros ei gyfaill; ac Iehofah a chwannegodd yr hyn oll a (fuasai) gan Iöb, yn ddau ddyblyg.

11Yna y daeth atto ef ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a bwyttasant gydag ef fara yn ei dŷ ef, a diddanasant ef, a chysurasant ef am yr holl ddrwg a ddygasai Iehofah arno ef, a rhoddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un fodrwy aur.

12Ac Iehofah a fendithiodd ddiwedd Iöb yn fwy na’i ddechreuad; ac yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau o wartheg, a mil o asenod;

13ac yr oedd iddo saith o feibion a thair o ferched,

14ac efe a alwodd enw y gyntaf Iemimah, ac enw yr ail Cetsïah, ac enw y drydedd Ceren-happwc;

15ac ni cheid gwragedd mor dlosgain a merched Iöb yn yr holl wlad; a rhoddes eu tad iddynt etifeddiaeth ym mhlith eu brodyr.

16A bu byw Iöb wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd, ac efe a welodd ei feibion, a meibion ei feibion, pedair cenhedlaeth.

17A threngodd Iöb, yn hên ac yn orlawn o ddyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help