Hebreaid 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Canys pob arch-offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymmerir, tros ddynion y gosodir yn y pethau sy tuag at Dduw,

2fel yr offrymmo roddion ac aberthau am bechodau, yn medru bod yn addfwyn tua’r rhai anwybodus a’r rhai ar gyfeiliorn, gan fod efe ei hun wedi ei amgylchu â gwendid;

3ac o achos hwn y mae arno, fel dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymmu am bechodau.

4Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, eithr pan y’i gelwir gan Dduw fel Aaron hefyd.

5Felly hefyd Crist ni ogoneddodd Ei hun i fyned yn Arch-offeiriad, eithr yr Hwn a ddywedodd Wrtho,

“Fy Mab wyt Ti,

Myfi heddyw a’th genhedlais;”

6fel hefyd mewn lle arall y dywaid,

“Tydi wyt offeiriad yn dragywydd

Yn ol dull Melchitsedec.”

7Yr Hwn, yn nyddiau Ei gnawd, gwedi offrymmu gweddïau ac erfyniau at yr Hwn oedd abl i’w achub Ef oddiwrth farwolaeth, gyda llefain cryf a dagrau, a chael Ei wrandaw o herwydd Ei ofn duwiol,

8er Ei fod yn Fab, ddysgodd trwy’r pethau a ddioddefodd,

9ufudd-dod, ac wedi Ei berffeithio a aeth, i bawb y sy’n ufuddhau Iddo, yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol,

10wedi Ei enwi gan Dduw “Arch-offeiriad yn ol dull Melchitsedec.”

11Ac am dano Ef llawer gair sydd genym i’w ddywedyd ac anhawdd ei ddehongli, gan mai hwyr-drwm yr aethoch yn eich clyw;

12canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu o ryw un i chwi egwyddorion dechreuad oraclau Duw, ac aethoch i fod a rhaid i chwi wrth laeth ac nid wrth fwyd cryf;

13canys pob un y sy’n cyfrannogi o laeth, heb ymarferiaeth o air cyfiawnder y mae,

14canys maban yw, ac i’r rhai wedi llawn-dyfu y mae bwyd cryf, y rhai o herwydd cynnefindra sydd a’u synwyr wedi ymarfer i farnu rhwng da a drwg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help