I. Corinthiaid 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yn hollol y clywir am odineb yn eich plith, a’r fath odineb ag nad oes hyd yn oed ym mhlith y cenhedloedd,

2fod gwraig ei dad gan ryw un; a chwithau ydych wedi eich chwyddo, ac ni fu i chwi yn hytrach alaru fel y rhoddid allan o’ch plith chwi yr hwn a wnaeth y weithred hon;

3canys myfi yn wir yn absennol yn y corph ond yn bresennol yn yr yspryd, a fernais eisoes, fel pe bawn yn bresennol,

4yr hwn a wnaeth hyn felly, yn enw ein Harglwydd Iesu, wedi dyfod ynghyd o honoch a’m hyspryd i,

5ynghyda gallu ein Harglwydd Iesu, draddodi y cyfryw un i Satan er dinystr y cnawd, fel y bo i’r yspryd ei achub yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6Nid da eich ymffrost. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does?

7Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch does newydd, fel yr ydych yn ddilefeinllyd; canys ein pasg a aberthwyd, sef Crist:

8gan hyny, cadwn yr wyl, nid â lefain hen, nag â lefain drygioni ac anfadrwydd, eithr â bara croyw purdeb a gwirionedd.

9Ysgrifenais attoch yn fy epistol i beidio ag ymgymmysgu â godinebwyr;

10nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â chybyddion, a rheibusion, neu âg eulunaddolwyr, canys felly y byddai rhaid i chwi fyned allan o’r byd;

11ond yr awrhon ysgrifenu attoch yr wyf i beidio ag ymgymmysgu, os rhyw un a enwir yn frawd fydd odinebwr, neu gybydd, neu eulun-addolwr, neu ddifenwr, neu feddwyn, neu rheibus, â’r cyfryw un i beidio ag hyd yn oed fwytta;

12canys pa beth sydd genyf fi a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu,

13ac y rhai oddi allan y mae Duw yn eu barnu? Rhoddwch y drygddyn allan o’ch plith chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help