I. Thessaloniaid 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Am hyny heb ymattal yn hwy, bu foddlawn genym ein gadael yn Athen, yn unig;

2a danfonasom Timothëus, ein brawd, a gweinidog Duw yn Efengyl Crist, i’ch sefydlu a’ch diddanu chwi ynghylch eich ffydd;

3nad ysgydwer neb gan y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd;

4canys pan gyda chwi yr oeddym, rhag-ddywedasom i chwi ein bod ar fedr ein gorthrymmu, fel y digwyddodd ac y gwyddoch.

5O herwydd hyn myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag mewn modd yn y byd ddarfod i’r temtiwr eich temtio, ac yn ofer yr aethai ein llafur.

6Ond wedi dyfod o Timothëus yn awr attom oddiwrthych, a mynegi i ni newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a bod genych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled, fel yr ydym ninnau hefyd am danoch chwi;

7o achos hyn diddanwyd ni, frodyr, o’ch rhan chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder,

8trwy eich ffydd chwi, canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.

9Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw am danoch am yr holl lawenydd â’r hwn y llawenychwn o’ch achos ger bron ein Duw,

10gan weddïo, nos a dydd, tros bob mesur, am weled eich gwyneb chwi, a pherffeithio diffygion eich ffydd?

11A Duw Ei hun a’n Tad, ac ein Harglwydd Iesu, a gyfarwyddo ein ffordd attoch;

12a’r Arglwydd a’ch lliosogo chwithau, ac a baro i chwi fod yn helaeth mewn cariad i’ch gilydd, ac i bawb, fel yr ydym ninnau hefyd i chwi,

13er mwyn sefydlu eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd ger bron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i holl saint.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help