1I’r blaengeiniad. (Ar don y gân) “Na ddistrywia.”
Eiddo Dafydd: ysgrifen, pan ffôdd efe rhag Shäwl i’r gwblhâ drosof:
4Denfyn Efe o’r nefoedd ac a’m gweryd,
Gwaradwydda yr hwn sy’n dyhëu am danaf; Selah.
Denfyn Duw Ei drugaredd a’i ffyddlondeb.
5Fy enaid (sydd) ym mysg llewod,
Gorwedd i gysgu yr wyf (ym mysg) y rhai fflamboer,
(Sef) meibion dynion â’u dannedd yn waywffon a saethau,
A’u tafodau yn gleddyf llym:
6Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd,
Uwch yr holl ddaear (bydded) Dy ogoniant!
7Rhwyd a osodasant hwy i’m traed,
—Crymmwyd fy enaid!
Cloddiasant o’m blaen bydew,
—Syrthiasant ynddo.
8Sefydlog yw fy nghalon, O Dduw, sefydlog yw fy nghalon,
Canaf a tharawaf y tannau,
9Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn;
Deffröaf y wawr;
10Clodforaf Di ym mysg y bobloedd, O Arglwydd,
Tarawaf y tannau i Ti ym mysg y cenhedloedd,
11Canys mawr, hyd y nefoedd, (yw) Dy drugaredd,
Ac hyd y cymmylau Dy ffyddlondeb:
12Ymddyrcha uwch y nefoedd, O Dduw.
Uwch yr holl ddaear (bydded) Dy ogoniant!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.