Diarhebion 22 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXII.

1Mwy dymunol (yw) enw da na chyfoeth lawer,

Rhagor arian, a rhagor aur (y mae) ffafr yn dda.

2Y goludog a ’r tlawd a gydgyfarfyddant,

Eu gwneuthurwr hwynt oll (yw) Iehofah.

3Y call a wel ddrwg ac a ymgudd,

Ond yr ehud rai a ânt rhagddynt ac a gospir.

4Canlyniad gostyngeiddrwydd (ac) ofn Iehofah

(Yw) golud ac anrhydedd a bywyd.

5Drain (a) maglau (sydd) ar ffordd y gŵyrdröawg,

A ddalio ar ei enaid, pell fydd oddi wrthynt.

6Cyfarwydda fachgen yn ol ei oesdaith,

Hefyd pan heneiddio ni chilia oddi wrtho.

7Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd,

A chaethwas (yw) ’r echwyn-geisiwr i ’r gwr a roes echwyn.

8A hauo anwiredd a fed wagedd,

Ac am wialen ei lid y derfydd.

9Y da ei lygad, hwnnw a fendithir,

Am roddi o hono o ’i fara i ’r anghenus.

10Gyrr ymaith watwarwr, ac allan yr â cynhen,

A derfydd ymryson a gwarth.

11A garo lendid calon,

Gras (yw) ei wefusau, ei gyfaill (yw) ’r brenhin.

12Llygaid Iehofah a gadwant wybodaeth,

Ond dadymchwel Efe eiriau ’r twyllodrus.

13Medd y swrth, “Llew yn yr heol!

Ynghanol yr ëangleoedd y ’m lleddir!”

14Pydew dwfn (yw) genau estronesau,

Perchen llid Iehofah a syrth iddo.

15Ffolineb yn rhwym ynghalon bachgen,

Gwialen cerydd a ’i pellhâ oddi wrtho.

16A orthrymmo ’r tlawd i chwannegu iddo ei hun,

Sy’n rhoi i ’r goludog,—yn unig i eisiau.

17Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau ’r doethion,

A ’th galon gosod ar fy ngwybodaeth;

18Canys peraidd (yw) cadw o honot hwynt yn ddwfn ynot,

(A)’u sefydu hwynt ar dy wefusau.

19Fel ar Iehofah y bo dy ymddiried,

Y ’th gyfarwyddais heddyw,—ïe, tydi:

20Oni ’scrifenais i ti ardderchog (bethau),

Gyda chynghorion a gwybodaeth,

21I ddysgu i ti iawnder geiriau gwirionedd,

Er mwyn dychwel (o honot) eiriau ffyddlondeb i’th ddanfonwr?

22Nac yspeilia ’r anghenus, o herwydd mai anghenus efe,

Ac na fathra ’r cystuddiol, yn y porth;

23Canys Iehofah a ddadleu eu dadl,

Ac a anrheithia eu hanrheithwyr o fywyd.

24Nac ymgyfeillach â ’r digllon,

A chyda ’r gwr llidiog na ddos;

25Rhag dysgu o honot ei lwybrau ef,

A chael o honot fagl i ’th enaid.

26Na fydd (un) o ’r efe dy wely oddi tanat?

28Na symmud mo ’r terfyn gynt,

Yr hwn a osododd dy dadau.

29A dremiaist di ar wr hyfedr ar ei orchwyl?

— Ger bron brenhinoedd yr ymorsaif efe,

Nid ymorsaif ger bron y dienwog rai.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help