1Na chynfigenna wrth ddynion drygionus,
Ac na chwennych fod gyda hwynt;
2Canys anrhaith a fyfyria eu calon,
A blinder y mae eu gwefusau yn ei draethu.
3Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ,
A thrwy bwyll y sicrhêir ef;
4A thrwy wybodaeth y gwneir stafelloedd yn llawn
O bob golud gwerthfawr a hyfryd:
5Gwr doeth (sydd) rymmus,
A dyn gwybodus a gadarnhâ nerth,
6Canys trwy arweiniad y gwnei ryfel i’th fantais,
A buddugoliaeth (sydd) trwy amlder cynghorwyr:
7Rhy uchel i’r ynfyd (yw) doethineb,
Yn y cyfyngder,
Cyfyng fu dy nerth;
11— Achub y rhai a lusgir i angau,
A’r rhai sy’n honciaw i’r lladdfa,—O na waredit (hwynt)!
12Os dywedi, “Wele, ni wybuom ni hyn,”—
Oni wna ’r Pwyswr calonnau,—(ïe) Hwnnw ddeall,
A Cheidwad dŷ enaid,—(ïe) Hwnnw wybod,
A thalu i ddynion yn ol eu gwaith?
13 Bwytta fêl, fy mab, canys da (yw),
A’r dil mel, y melus ar daflod dy enau;
14 Felly adnebydd ddoethineb i’th enaid,
Os cei hyd iddi, y mae throi o Hono Ei ddig oddi arno ef:
19Nac ymennyna o herwydd y drwg weithredwyr,
Na chynfigenna wrth yr annuwiolion;
20Canys ni bydd anwadal rai nac ymgymmysg;
22Canys yn ddisymmwth y cyfyd eu distryw hwy,
A’u dinystr hwy ill dau,— pwy a’i gŵyr?
23Hefyd y rhai hyn (sydd) eiddo doethion.
Adnabod gwyneb mewn barn, nid da (yw).
24A ddywedo wrth yr euog, “Y cyfiawn (wyt),”
Melldithia ’r bobl ef,
Rhega ’r cenhedloedd ef;
25Ond y rhai (a’i) cospont, yn wych y bydd iddynt,
Ac arnynt y daw bendith daioni.
26Y gwefusau a gusana
Dychwelwr geiriau uniawn.
27Trefna dy orchwyl oddi allan,
A darpara ef yn y maes i ti dy hun,
Gwedi ’n—yr adeiledi dy dŷ.
28Na fydd dyst, heb wybod, i’th gyfaill,—
Ac a dwyllit ti â’th wefusau?
29Na ddywed, “Fel y gwnaeth i mi, felly y gwnaf iddo ef,
Talaf i’r gwr yn ol ei weithred.”
30Wrth faes y gwr dïog yr aethum heibio,
Ac wrth winllan y dyn diffygiol o feddwl,
31Ac wele, codasai ar hyd-ddo i gyd ysgall,
Gorchuddio ei wyneb a wnaeth danadl,
A’i fagwyr gerrig a ddistrywiasid:
32Ac edrychais innau, gosodais fy meddwl (arno),
Gwelais, cymmerais addysg,
33 gwel 6:10, 11. —“Ychydig gysgu,—ychydig hepian,
Ychydig blethu dwylaw i huno,”
34Ac fel ymdeithydd y daw dy dlodi,
A’th angen fel gwr â tharian!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.