1Mab doeth a geryddwyd gan (ei) dad,
Ond gwatwarwr ni chlybu sen.
2O ffrwyth genau gwr yr ymborth efe ar dda,
Ond enaid yr anffyddloniaid, ar drais.
3A wylio ar ei enau a geidw ei enaid;
A ledo ei wefusau, dinystr (fydd) iddo.
4Chwennych, ond heb (gael, y mae) enaid y swrth,
Ond enaid y llafurus a ireiddir.
5Gair gau sydd gas gan y cyfiawn,
Ond yr annuwiol, drwg a chywilyddus yr ymdrin efe.
6Cyfiawnder a geidw ddiniweidrwydd ffordd,
Ond annuwioldeb a ddymchwel bechodau.
7Y mae a ymhonna gyfoeth, ac heb ddim (iddo),
A ymhonna dlodi, a golud mawr (ganddo).
8Prid bywyd gwr (yw) ei gyfoeth,
Ond y tlawd ni chlyw sen.
9Goleuni ’r cyfiawn a ddisgleiria,
Ond llusern yr annuwiolion a ddiffoddir.
10Trwy draha y cwyd dyn gynnen yn unig,
Ond gyda’r cynghoredig (y mae) doethineb.
11Golud, ffrwyth gwagedd, a leihêir,
Ond a gasglo â ’i law a chwannega.
12Disgwyl estynedig a bair saldra calon,
Ond pren bywyd (yw) deisyfiad a ddaeth.
13A ddirmygo ’r gair a ymwystlodd iddo,
Ond a ofno ’r gorchymyn, i hwnnw y telir.
14Dysg y doeth (sydd) ffynnon bywyd,
caled (yw).
16Pob call a weithreda â gwybodaeth,
Ond yr ynfyd a daena ffolineb.
17Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni,
Ond negeswr ffyddlon (sydd) iechyd.
18Tlodi a gwarth (yw) ’r hwn a wrthyd gerydd,
Ond a ddalio ar argyhoeddiad a anrhydeddir.
19Dymuniad cyflawnedig sydd felus i’r enaid,
Ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrwg.
20A rodio gyda doethion fydd doeth,
Ond a ymhyfrydo mewn ynfydion fydd ddrwg.
21Pechaduriaid a erlyn drwg,
Ond i ’r cyfiawn rai y tâl (Efe) ddaioni.
22Y da a âd etifeddiaeth i feibion (ei) feibion,
Ond golud, cuddiedig i ’r cyfiawn, (yw) cyfoeth y pechadur.
23Amlder ymborth (yw) tir âr y tlodion,
Ond y mae a ddinystrir trwy ddiffyg uniondeb.
24A arbedo ei wialen (sy)’n casâu ei fab,
Ond yr hwn a ’i câr ef a ddarpara gerydd.
25Y cyfiawn a fwytty hyd orddigoniad ei enaid,
Ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.