1Yna y daeth at yr Iesu, o Ierwshalem, Pharisheaid ac Ysgrifenyddion,
2gan ddywedyd, Paham y mae Dy ddisgyblion yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys ni olchant eu dwylaw, pan fwyttaont fara.
3Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Paham hefyd yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad?
4canys Duw a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam:” ac, “A felldithio dad neu fam, bydded farw â’r farwolaeth:”
5A chwychwi a ddywedwch, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd i Dduw yw pa beth bynnag y cawsit yn lles oddi wrthyf, nid yw, er dim i anrhydeddu ei dad;
6a dirymmwch air Duw o achos eich traddodiad.
7Rhagrithwyr, da y prophwydodd Eshaiah am danoch, gan ddywedyd,
8“Y bobl hyn â’u gwefusau y’m hanrhydeddant,
Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf:
9Ond yn ofer yr addolant Fi,
Gan ddysgu yn ddysgeidiaeth orchymynion dynion.”
10Ac wedi galw’r dyrfa Atto, dywedodd wrthynt, Clywch a deallwch.
11Nid yr hyn sy’n myned i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hyn sy’n halogi dyn.
12Yna wedi dyfod Atto, ei ddisgyblion a ddywedasant Wrtho, A wyddost Ti y bu i’r Pharisheaid, wrth glywed y gair hwn, eu tramgwyddo?
13Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn ni phlannodd Fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14Gadewch iddynt, tywysogion deillion ydynt; ac os y dall a dywys y dall, y ddau i ffos y syrthiant.
15A Phetr a ddywedodd Wrtho, Mynega i ni y ddammeg.
16Ac Efe a ddywedodd, Etto byth a ydych chwithau hefyd yn anneallus?
17Oni welwch fod pob peth y sy’n myned i mewn i’r genau yn myned i’r bol, ac i’r geudy y’i bwrir allan?
18ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant allan, a hwynt-hwy a halogant ddyn.
19Canys o’r galon y mae yn dyfod allan feddyliau drwg, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, gau-dystiolaethau,
20cablau: y pethau hyn yw’r rhai sy’n halogi dyn: ond bwytta â dwylaw heb eu golchi ni haloga ddyn.
21Ac wedi myned allan oddi yno, yr Iesu a giliodd i dueddau Tyrus a Tsidon.
22Ac wele, gwraig o Canaan, wedi dyfod allan o’r cyffiniau hyny, a waeddodd, gan ddywedyd, Tosturia wrthyf, Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a boenir yn dost gan gythraul.
23Ac Efe nid attebodd iddi air. Ac wedi dyfod Atto, Ei ddisgyblion a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys gwaeddi ar ein hol y mae.
24Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Ni’m danfonwyd oddieithr at ddefaid colledig tŷ Israel.
25A hithau a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.
26Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid da yw cymmeryd bara’r plant a’i fwrw i’r cwn.
27A hithau a ddywedodd, Felly, Arglwydd; canys y cwn a fwyttant o’r briwsion y sy’n syrthio oddi wrth fwrdd eu harglwyddi.
28Yna, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr ewyllysi. Ac iachawyd ei merch o’r awr honno.
29Ac wedi myned oddi yno, yr Iesu a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac, wedi esgyn i’r mynydd, eisteddodd yno.
30A daeth Atto dorfeydd mawrion, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer, a bwriasant hwynt wrth Ei draed Ef, ac iachaodd Efe hwynt;
31fel y bu i’r dyrfa ryfeddu wrth weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio, a deillion yn gweled: a gogoneddasant Dduw Israel.
32A’r Iesu, wedi galw Atto Ei ddisgyblion, a ddywedodd, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys tridiau sydd weithian y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttaont: ac eu gollwng ymaith ar eu cythlwng nid ewyllysiaf, rhag ysgatfydd eu llewygu ar y ffordd.
33A dywedodd y disgyblion Wrtho, O ba le y bydd genym mewn anialwch dorthau gymmaint ag i ddigoni tyrfa mor fawr?
34A dywedodd yr Iesu wrthynt, Pa sawl torth sydd genych h? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
35Ac wedi gorchymyn i’r dyrfa orwedd ar y ddaear, cymmerodd y saith dorth a’r pysgod;
36ac wedi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
37A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt. A chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, saith cawellaid yn llawn.
38A’r rhai a fwyttasant oeddynt bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, yr aeth Efe i’r cwch, ac y daeth i gyffiniau Magadan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.