1Molwch Iah!
Molwch Iehofah, o’r nefoedd,
Molwch Ef, yn yr uchelderau;
2Molwch Ef, Ei holl angylion,
Molwch Ef, Ei holl luoedd;
3Molwch Ef, haul a lleuad,
Molwch Ef, yr holl ser goleuni;
4Molwch Ef, nef y nefoedd,
A’r dyfroedd, y rhai (ŷch) oddi ar y nefoedd!
5Molent hwy enw Iehofah,
Canys Efe a orchymynodd,—a chrëwyd hwynt;
6A sefydlodd Efe hwynt am byth ac yn dragywydd,
Deddf a roddes Efe,—ac nid aiff hi heibio!
7Molwch Iehofah, o’r ddaear,
Y môr-fwystfilod, a’r holl donnau;
8 Tân a chenllysg, eira ac ïa,
Y corwỳnt yn gwneuthur Ei air Ef;
9Y mynyddoedd a’r holl fryniau,
Y coed ffrwythlawn a’r holl gedrwydd;
10Y bwystfil a phob anifail,
Yr ymlusgiad ac adar asgellog;
11Brenhinoedd y ddaear, a’r holl bobloedd,
Tywysogion a holl farnwyr y byd;
12Gwŷr ieuaingc a gwŷryfon hefyd,
Henafgwyr a llangciau!
13Molent hwy enw Iehofah,
Canys dyrchafedig yw Ei enw Ef yn unig,
Ei ardderchowgrwydd (sydd) dros y ddaear a’r nefoedd;
14Ac uchel-gododd Efe gorn Ei bobl,
Moliant Ei holl saint (yw Efe),
(Sef) meibion Israel, pobl agos Atto;
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.