1Dïolchwch i Iehofah, canys da (yw),
—O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
2(Felly), attolwg, dyweded Israel,
—O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
3(Felly), attolwg, dyweded tŷ Aharon,
—O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
4(Felly), attolwg, dyweded y rhai a ofnont Iehofah,
—O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
(Blaenor y côr)5Mewn cyfyngder y gelwais ar Iah,
Atteb i mi mewn ehangder a roes Iah!
6Iehofah (sydd) gyda mi,— nid ofnaf;
—Pa beth a wna dyn i mi?
7Iehofah (sydd) gennyf ymhlith fy nghynnorthwywyr,
A myfi,—syllaf ar fy nghaseion;
8Gwell ymnoddi yn Iehofah
Nag ymddiried mewn dyn;
9Gwell ymnoddi yn Iehofah
Nag ymddiried mewn tywysogion!
10Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant,
—Yn enw Iehofah y torrais hwynt ymaith;
11Amgylchynasant fi, ïe, amgylchynasant fi,
—Yn enw Iehofah y torrais hwynt ymaith;
12Amgylchynasant fi, fel gwenyn,
—Diffoddasant fel tân drain,
Yn enw Iehofah y torrais hwynt ymaith!
13Gan wthio y gwthiaist fi fel y syrthiwn,
Ond Iehofah a’m cynnorthwyodd!
14Fy mawl a’m salm (yw) Iah,
Canys bu Efe i mi yn iachawdwriaeth!
15Sain llawen-gân a buddugoliaeth (sydd) ymhebyll y cyfiawn rai,
—Deheulaw Iehofah (sy’)n gwneuthur grymmusder,
16Deheulaw Iehofah (sydd) ddyrchafedig,
Deheulaw Iehofah (sy’)n gwneuthur grymmusder!
17Nid marw, ond byw fyddaf,
Fel y mynegwyf weithredoedd Iah,
18— Gan geryddu y ceryddodd Iah fi,
Ond i farwolaeth ni’m rhoddodd!
19Agorwch i mi byrth cyfiawnder,
Fel yr elwyf i mewn iddynt, y diölchwyf i Iah!
20 Y porth hwn, eiddo Iehofah (yw),
Y cyfiawn rai a ant i mewn iddo!
21 Dïolchaf i Ti o herwydd gwrando o Honot arnaf,
A myned o Honot i mi yn iachawdwriaeth:
22—Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
A aeth yn ben i’r gongl!
23Oddi wrth Iehofah y bu hyn;
Hyn (sydd) ryfedd yn ein golwg ni!
(Y côr)24Hwn (yw)’r dydd a wnaeth Iehofah;
Gorfoleddwn a llawenychwn ynddo!
25Attolwg! O Iehofah! cynhorthwya, attolwg!
Attolwg! O Iehofah! dyro lwyddiant, attolwg.
(Yr Offeiriad)26Bendigedig (fo) ’r hwn sy’n dyfod yn enw Iehofah!
Bendithiwn chwi o dŷ Iehofah!
27Duw (sydd) Iehofah; a rhoddes lewyrch i ni!
Rhwymwch yr aberth â rhaffau.
At gyrn yr allor (dygwch ef)!
(Blaenor y côr)28Fy Nuw Tydi (ydwyt); a dïolchaf i Ti;
Fy Nuw, dyrchafaf Di!
(Y côr)29Dïolchwch i Iehofah. canys da (yw),
O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.