1Ond tydi, llefara’r pethau a weddant i’r athrawiaeth iachus;
2i hynaf-gwyr fod yn gymmedrol, yn ddifrifol, yn sobr eu meddwl, yn iach yn y ffydd, yn eu cariad, yn eu hamynedd;
3i’r hynaf-wragedd, yr un ffunud, fod mewn ymddygiad yn hybarch, nid yn enllibaidd, nac wedi eu caethiwo i win lawer,
4yn dysgu’r hyn sydd dda, fel y sobront feddyliau y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant;
5i fod yn sobr eu meddyliau, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ymddarostwng i’w gwŷr, fel na bo i Air Duw ei gablu.
6Y gwŷr ieuaingc, yr un ffunud,
7cynghora i fod yn sobr eu meddyliau: ym mhob peth yn dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da; yn dy ddysgad yn dangos anllygredigaeth,
8difrifoldeb, ymadrodd iach na ellir ei gondemnio, fel y bo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim sydd ddrwg i’w ddywedyd am danom.
9Gweision cynghora i ymddarostwng i’w meistriaid; ym mhob peth i ryngu bodd iddynt,
10nid yn gwrth-ddywedyd, nid yn darn-guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel athrawiaeth Dduw ein Hiachawdwr yr addurnont ym mhob peth;
11canys ymddangosodd gras Duw, yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn,
12yn ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a’r chwantau bydol, y bo i ni fyw â meddyliau sobr, ac yn gyfiawn,
13ac yn dduwiol yn y byd y sydd yn awr, gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac am ymddangosiad gogoniant y Duw mawr a’n Hiachawdwr Iesu Grist,
14yr Hwn a’i rhoddes Ei hun trosom, fel y prynai ni oddiwrth bob anghyfraith, ac y’n purai Iddo Ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
15Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na fydded i neb dy ddirmygu di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.