Psalmau 145 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CXLV.

1Emyn o eiddo Dafydd.

Dyrchafaf Di fy Nuw, O Frenhin,

A bendithiaf Dy enw yn dragywydd a byth;

2Beunydd y’th fendithiaf,

A chlodforaf Dy enw yn dragywydd a byth!

3Mawr (yw) Iehofah a chlodforedig iawn,

A’i fawredd (sydd) anchwiliadwy!

4Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl Dy weithredoedd,

A’th gadernid a fynegant hwy!

5Ardderchowgrwydd gogoniant Dy fawrhydi,

A’th bethau rhyfedd, a ganaf;

6A nerth Dy weithredoedd ofnadwy a draethant hwy,

A’th fawr weithredoedd,—adroddwyf fi hwynt!

7Mawl amlder Dy ddaioni a lefarant,

A’th gyfiawnder a lawen-ganant!

8Graslawn a thrugarog (yw) Iehofah,

Hwyrfrydig i ddig, a mawr (Ei) drugaredd;

9Daionus (yw) Iehofah i bawb,

A’i drugareddau (sydd) ar Ei holl weithredoedd;

10Talu dïolch i Ti, O Iehofah, a wna Dy holl weithredoedd,

A’th saint a’th fendithiant;

11Gogoniant Dy frenhiniaeth a draethant hwy,

Ac am Dy gadernid y dywedant;

12I hyspysu i feibion dynion Ei gadernid Ef,

A gogoniant ardderchowgrwydd Ei frenhiniaeth!

13Dy frenhiniaeth (sydd) frenhiniaeth dragywyddol!

A’th lywodraeth ymhob cenhedlaeth a cenhedlaeth!

14Cynnaliwr (yw) Iehofah i’r holl rai a syrthiont,

Ac yn sythu y crymmedig rai!

15Llygaid pob peth a ddisgwyliant Wrthyt,

A Thydi (sy)’n rhoddi iddynt eu bwyd yn ei bryd,

16Gan agoryd Dy law,

A chan orddigoni i bob peth byw ei chwennychiad:

17Cyfiawn (yw) Iehofah yn Ei holl ffyrdd,

A charedig yn Ei holl weithredoedd;

18Agos (yw) Iehofah i’r holl rai a alwont Arno,

—I’r holl rai a alwont Arno mewn gwirionedd:

19Chwennychiad y rhai a’i hofnont Ef a wna Efe,

A’u llefain a glyw Efe, ac a’u gweryd:

20Cadw (y mae) Iehofah yr holl rai a’i carant Ef,

Ond yr holl annuwiolion a ddifetha Efe!

21Moliant Iehofah a draetha fy ngenau;

A bendithied pob cnawd Ei enw sanctaidd Ef,

Yn dragywydd a byth!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help