Iöb 8 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

VIII.

1Yna yr attebodd Bildad y Shwhiad a dywedodd,

2Pa hŷd yr adroddi di y fath bethau,

Ac yn wỳnt cryf (y bydd) geiriau dy enau?

3Ai Duw a ŵyra uniondeb,

Ac ai ’r Hollalluog a ŵyra gyfiawnder?

4Os dy feibion a bechasant yn Ei erbyn Ef,

Efe a’u rhoddes yn llaw eu camwedd.

5Os tydi a geisi Dduw,

Ac a weddïi ar yr Hollalluog;

6Os pur ac uniawn tydi,

Yn ddïau, gan hynny, Efe a wylia drosot,

Ac a heddycha drigfa dy gyfiawnder,

7A bydd dy gyflwr gynt (megis) bychan,

A’th gyflwr i ddyfod a fawrhêir yn ddirfawr,

8 — Canys gofyn, attolwg, i’r genhedlaeth gynt,

Ac ystyria ymchwiliad eu tadau hwythau;

9O herwydd er doe nyni, ac ni wyddom ni ddim,

Canys cysgod (yw) ein dyddiau ni ar y ddaear;

10Onid hwy a wnant dy ddysgu, a dywedyd wrthyt,

Ac o’u calon ddwyn allan ymadroddion? (sef)

11 “A uchel-dŷf y frwynen mewn (lle) nad yw gors?

A fawrhêir hesgen y Nilws heb ddyfroedd?

12 A hi etto yn ei gwyrddedd, ni thorrir hi ymaith,

Ond o flaen pob glaswelltyn gwywo a wnaiff hi;

13Felly ffyrdd yr holl rai sy’n anghofio Duw,

Ac y diflanna gobaith yr annuwiol,

14Yr hwn y torrir ymaith ei obaith,

A thŷ pryf coppyn (yw) ei hyder;

15Ymbwyso a wna efe ar ei dŷ, ond hwn ni saif,

Ymaflyd a wna efe ynddo, ond hwn ni phery:

16 Irawl yw efe o flaen yr haul,

A thros ei ardd ei ysgewyll a ânt allant;

17Ar bentwr (meini) ei wraidd ef a ymblethant,

Trigfa’r cerrig a genfydd efe:

18 (Ond) pan ddiwreiddio (dyn) ef allan o’i le,

Hwn a’i gwâd ef (gan ddywedyd) ‘Ni welais i mo honot.’

19 Wele! hyn yma (yw) llawenydd ei ffordd ef!

Ac o’r pridd (yna) ereill a flagurant!”

20Wele, Duw ni ddirmyga ’r perffaith,

Ac nid ymeifl Efe yn llaw y rhai drygionus! —

21 Hyd oni lanwo Efe dy enau di â chwerthin,

A’th wefusau â bloedd gorfoledd,

22A bod i’th gaseion ymwisgo â chywilydd,

Ac i babell yr annuwiolion ddiflannu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help