S. Ioan 15 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Myfi yw’r winwydden wir; ac Fy Nhad, y llafurwr yw.

2Pob cangen Ynof nad yw yn dwyn ffrwyth, cymmer Efe hi ymaith; a phob un y sy’n dwyn ffrwyth, ei glanhau y mae Efe, fel y dygo fwy o ffrwyth.

3Yn awr chwychwi ydych lân o achos y gair a leferais wrthych.

4Arhoswch Ynof, ac Myfi ynoch chwi. Fel nad yw’r gangen yn abl i ddwyn ffrwyth o honi ei hun os nad erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau os nad Ynof yr arhoswch.

5Myfi yw’r winwydden, chwychwi yw’r canghennau. Yr hwn sy’n aros Ynof, ac Myfi ynddo yntau, efe sy’n dwyn ffrwyth lawer; canys yn wahan Oddiwrthyf ni ellwch wneuthur dim.

6Onid erys un Ynof, bwrir ef allan, fel y gangen, a gwywa: a chasglant hwynt, ac i’r tân y’u bwriant, a llosgir hwynt.

7Os arhoswch Ynof, ac Fy ngeiriau a arhosant ynoch, pa beth bynnag a ewyllysiwch, gofynwch ef, a bydd i chwi.

8Yn hyn y gogoneddir Fy Nhad, pan ffrwyth lawer a ddygoch; a byddwch Fy nisgyblion I.

9Fel y carodd y Tad Fi, Minnau hefyd a’ch cerais chwi. Arhoswch yn Fy nghariad I.

10Os Fy ngorchymynion a gedwch, arhoswch yn Fy nghariad; fel y cedwais I orchymynion Fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn Ei gariad Ef.

11Y pethau hyn a leferais wrthych, fel y bo Fy llawenydd ynoch, ac i’ch llawenydd ei gyflawni.

12Hwn yw Fy ngorchymyn, Ar garu o honoch eich gilydd fel y cerais chwi.

13Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef fod i ddyn ddodi i lawr ei einioes dros ei gyfeillion.

14Chwychwi yw Fy nghyfeillion, os gwnewch y pethau yr wyf Fi yn eu gorchymyn i chwi.

15Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, canys y gwas ni wŷr pa beth y mae ei arglwydd ef yn ei wneuthur; ond chwi a elwais yn gyfeillion, canys pob peth o’r a glywais gan Fy Nhad, a hyspysais i chwi.

16Nid chwi a’m dewisasoch I, eithr Myfi a ddewisais chwi, ac a’ch gosodais fel yr eloch chwi, a ffrwyth a ddygoch, ac y bo i’ch ffrwyth aros; fel pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad, y rhoddo Efe i chwi.

17Hyn a orchymynaf i chwi, Garu o honoch eich gilydd.

18Os y byd a’ch casa chwi, gwyddoch y bu’m I o’ch blaen chwi yn gas ganddo.

19Os o’r byd y byddech, y byd a garai ei eiddo; ond gan nad o’r byd yr ydych, eithr Myfi a’ch dewisais allan o’r byd, o achos hyn eich casau y mae y byd.

20Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais I wrthych, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os Myfi a erlidiasant, chwychwi hefyd a erlidiant: os Fy ngair I a gadwasant, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21Ond y pethau hyn oll a wnant i chwi o achos Fy enw, gan nad adnabuant yr Hwn a’m danfonodd.

22Pe na ddelswn a llefaru wrthynt, pechod ni fuasai arnynt; ond yr awrhon nid oes esgus ganddynt am eu pechod.

23Yr hwn a’m casao I, Fy Nhad hefyd a gasa efe.

24Pe na wnelswn yn eu plith weithredoedd na fu i neb arall eu gwneud, pechod ni fuasai arnynt; ond yn awr, gwelsant a chasasant Fyfi ac Fy Nhad.

25Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith, “Casasant fi yn ddïachos.”

26Ond pan ddel y Diddanydd, yr Hwn a ddanfonaf Fi i chwi oddiwrth y Tad, Yspryd y gwirionedd, yr Hwn o’r Tad y deilliaw, Efe a dystiolaetha am Danaf;

27a chwychwi a dystiolaethwch, canys o’r dechreuad yr ydych gyda Mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help