1Clodforwch Iehofah, canys da (yw),
O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
2(Felly) dyweded rhyddedigion Iehofah,
Y rhai a ryddhâodd Efe o law y gelyn,
3Ac a môr!
4Crwydrasant yn yr anialwch, yn y difaethwch,
I ffordd i ddinas gyfanneddol ni chawsant hŷd;
5Yn newynog ac yn sychedig.
Eu henaid ynddynt a ymdywyllodd;
6A llefasant ar Iehofah, pan yr oedd ing arnynt,
O’u cyfyngderau y gwaredodd Efe hwynt,
7Ac hyfforddodd hwynt mewn ffordd iawn,
I fyned i ddinas gyfaneddol;
8Clodforent hwy Iehofah am Ei drugaredd
A’i ryfeddodau i feibion dynion,
9O herwydd gorddigoni o Hono yr enaid sychedig,
A’r enaid newynog, Iddo ei lenwi â daioni!
10Y rhai a eisteddent mewn tywyllwch a chysgod angeuaidd,
Yn rhwymedig mewn cystudd ac haiarn,
11O herwydd mai gwrthnysig oeddynt yn erbyn geiriau Duw,
A chynghor y Goruchaf a ddirmygasant,
12Fel y darostyngodd Efe eu calon â blinder,
Y gwegiasant, ac heb gynnorthwywr;
13A llefasant ar Iehofah, pan yr oedd ing arnynt,
O’u cyfyngderau y rhyddhâodd Efe hwynt,
14Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angeuaidd,
A’u rhwymau a rwygodd Efe;
15Clodforent hwy Iehofah am Ei drugaredd
A’i ryfeddodau i feibion dynion,
16 ddisgynent ar y môr mewn llongau,
Yn gwneuthur eu gorchwyl ar ddyfroedd lawer;
24Hwynt-hwy a welsant weithredoedd Iehofah,
A’i ryfeddodau yn y dyfnder,
25—Canys llefara Efe, a chyfyd wỳnt y dymhestl.
(Yr hwn) a ddyrchafa ei donnau ef;
26Esgynant hwythau i’r nefoedd,—disgynant i’r dyfnder,—
Eu henaid, mewn drygfyd, a dawdd;
27Cylchdröant a honciant fel meddwyn,
A’u holl ddoethineb a ddifäir,—
28A llefasant ar Iehofah, pan yr oedd ing arnynt,
O’u cyfyngderau y rhyddhâodd Efe hwynt;
29— Ettyl Efe’r dymhestl fel y bo’n awel fwyn,
A gostegir eu tonnau;
30A llawenychant o herwydd tawelu o honynt,
Ac arwain Efe hwynt i borthladd eu dymuniad; —
31Clodforont hwy Iehofah am Ei drugaredd
A’i ryfeddodau i feibion dynion,
32A dyrchafont Ef ynghynnulleidfa ’r bobl,
Ac yn eisteddfod yr henuriaid moliannont Ef!
33Gwna Efe afonydd yn ddiffaethwch,
A ffynhonnau dyfroedd yn sychedig dir,
34Tir ffrwythau yn halltog,
Am ddrygioni y trigolion ynddo!
35Gwna Efe ddiffaethwch yn llyn dyfroedd,
A thir cras yn ffynhonnau dyfroedd,
36Trigfa a rydd Efe yno i’r rhai a newynent,
A seiliant ddinas gyfanneddol,
37A heuant faesydd, a phlannant winllanoedd,
A chodant ffrwyth ennillfawr;
38A bendithia Efe hwynt, ac amlhânt yn ddirfawr,
Ac i’w hanifeiliaid ni phair Efe leihâd;
39—Ond lleihâwyd hwynt, a soddasant,
Gan orthrymder drygfyd, a chyni;
40 amddiffyn Efe yr anghenus rhag cystudd,
Iöb 21:11. A gwna y teuluoedd fel praidd!
42Gwêl y rhai uniawn (hyn), a llawenychant,
A phob anwiredd a gau ei safn!
43Y neb (sydd) ddoeth, ystyried efe yr hyn bethau,
A deallent hwy drugareddau Iehofah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.