S. Luc 17 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Ammhosibl yw na fo i’r tramgwyddau ddyfod; ond gwae y neb trwy yr hwn y deuant;

2gwell fyddai iddo pe bai maen melin yn cael ei roddi o amgylch ei wddf, a’i daflu ef i’r môr, nag iddo beri tramgwydd i un o’r rhai bychain hyn.

3Cymmerwch ofal. Os pecha dy frawd, dwrdia ef; ac os edifarha, maddeu iddo;

4ac os seithwaith yn y dydd y pecha yn dy erbyn, a seithwaith droi attat gan ddywedyd, Y mae yn edifar genyf, maddeui iddo.

5A dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd.

6A dywedodd yr Arglwydd, Pe byddai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y sycamorwydden hon, Dadwreiddier di, a phlanner di yn y môr, ac ufuddhai i chwi.

7A phwy o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywaid wrtho, wedi dyfod o hono i mewn o’r maes, Tyred yn uniawn a lled-orwedda,

8eithr na ddywaid wrtho, Arlwya beth y swpperaf arno, a chan ymwregysu gwasanaetha arnaf nes i mi fwytta ac yfed;

9ac wedi hyny y bwyttai ac yr yfi dithau. A oes ganddo ddiolch i’r gwas am wneuthur o hono y pethau a orchymynwyd iddo.

10Felly chwithau hefyd, ar ol gwneuthur o honoch yr holl bethau a orchymynwyd i chwi, dywedwch, gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom.

11A bu ar y daith i Ierwshalem, yr oedd Efe yn myned trwy ganol Shamaria a Galilea.

12Ac wrth fyned o Hono i mewn i ryw bentref, cyfarfu ag Ef ddeg o ddynion gwahanglwyfus, y rhai a safasant o hirbell;

13a hwy a godasant eu llais gan ddywedyd, Iesu, Feistr, trugarha wrthym.

14A phan welodd hwynt, dywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu wrth fyned ymaith o honynt, y glanhawyd hwynt.

15Ac un o honynt gan weled yr iachawyd ef, a ddychwelodd dan ogoneddu Duw â llais uchel,

16a syrthiodd ar ei wyneb wrth Ei draed Ef dan ddiolch Iddo.

17Ac efe, Shamariad ydoedd. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Oni fu i’r deg eu glanhau? A’r naw, pa le y maent?

18Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, oddieithr yr estron hwn.

19A dywedodd wrtho, Cyfod a dos dy ffordd: dy ffydd a’th iachaodd.

20A phan ofynwyd Iddo gan y Pharisheaid, Pa bryd y daw teyrnas Dduw, attebodd iddynt, a dywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw gyda gwylied arni: ac ni ddywedant,

21“Wele yma,” neu “Accw,” canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn y mae.

22A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Daw dyddiau pan chwennychwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch.

23A dywedant wrthych, “Wele, accw;” “Wele, yma;”

24nac ewch ymaith, ac na chanlynwch; canys fel y mae’r fellten, gan felltennu o un ran dan y nef, yn disgleirio i ran arall dan y nef, felly y bydd Mab y Dyn yn Ei ddydd.

25Ond yn gyntaf y mae rhaid Iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon.

26Ac fel y bu yn nyddiau Noach, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn;

27bwyttaent, yfent, priodent, rhoddid yn briod, hyd y dydd yr aeth Noach i mewn i’r arch, ac y daeth y diluw ac y’u difethodd hwynt oll.

28Yr un ffunud fel y bu yn nyddiau Lot; bwyttaent, yfent, prynent, gwerthent, plannent, adeiladent;

29ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, gwlawiodd tân a brwmstan o’r nef ac a’u difethodd hwynt oll.

30Yn yr un modd y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael Ei ddatguddio.

31Yn y dydd hwnw, yr hwn a fydd ar ben y tŷ, a’i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgyned i’w cymmeryd hwynt; a’r hwn yn y maes, yr un ffunud, na ddychweled yn ei ol.

32Cofiwch wraig Lot. Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll;

33a phwy bynnag a’i collo, a’i bywha hi.

34Canys dywedaf wrthych, Yn y nos honno y bydd dau mewn un gwely; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir:

35y bydd dwy yn malu ynghyd; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir.

37A chan atteb, dywedasant Wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Lle y mae’r corph, yno hefyd yr adar rheibus a gydgesglir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help