1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.
2Hyd pa hyd, O Iehofah? — A anghofi Di fi am byth?
Hyd pa hyd y cuddi Dy wyneb oddi wrthyf?
3Hyd pa hyd y dodaf gynghorion yn fy enaid,
(A) gofid yn fy nghalon ddydd ar ol dydd?
Hyd pa hyd yr ymddyrcha fy ngelyn yn fy erbyn?
4Edrych, clyw fi, O Iehofah fy Nuw!
Goleua fy llygaid rhag huno o honof yn angau,
5Rhag dywedyd o’m gelyn “Gorchfygais ef,”
(Ac) i ’m gorthrymmydd orfoleddu o herwydd fy siglo!
6Eithr myfi—yn Dy drugaredd Di yr ymhyderaf,
Gorfoledda fy nghalon yn Dy gymmorth;
Canaf fawl Iehofah am wneuthur o Hono ddaioni i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.