Psalmau 70 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXX.

1I’r blaengeiniad. Eiddo Dafydd. I beri coffâd.

2 cydmerwch Psalm 40:14-18 , â’r salm hon. O Dduw, i’m gwaredu,

O Iehofah, i’m cymmorth—tyred ar frys!

3Cywilyddier a gwrided y rhai a geisiant fy einioes,

Gyrrer yn eu hol, a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi;

4Dychweled, o herwydd eu cywilydd, y rhai a ddywedant “Ha! Ha!”

5Gorfoledded a llawenyched Ynot y rhai oll a’th geisiant,

A dywedyd bob amser “Mawryger Iehofah” a wnelo carwyr Dy iachawdwriaeth!

6Etto myfi,—truan ac anghenus (wyf),

O Dduw, brysia attaf!

Fy nghymmorth a’m gwaredydd Tydi (ydwyt);

O Iehofah, nac oeda!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help