1A chan gydweithio ag Ef deisyfiwn hefyd nad yn ofer
2y derbyniwch chwi ras Duw (canys dywaid Efe,
“Yn amser cymmeradwy y gwrandewais arnat,
Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di.”
Wele, yn awr y mae’r “amser cymmeradwy;” wele, yn awr y mae “dydd iachawdwriaeth,”)
3heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn dim fel na feier ar y weinidogaeth;
4eithr ymhob peth yn cymmeradwyo ein hunain megis gweinidogion Duw, mewn amynedd lawer, mewn cystuddiau,
5mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn trallodau,
6mewn gwyliedwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir-ymaros, mewn tiriondeb, yn yr Yspryd Glân,
7mewn cariad diragrith, yngair y gwirionedd, yngallu Duw; trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy, trwy ogoniant a dianrhydedd, trwy anghlod a chlod:
8fel arweinwyr ar gyfeiliorn, ac er hyny yn eirwir;
9fel yn anadnabyddus, ac er hyny yn adnabyddus; fel yn meirw, ac wele byw ydym; fel yn cael ein ceryddu, ac heb ein lladd;
10fel yn cael ein tristau, ond yn wastad yn llawen; fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; fel heb ddim genym, ac â phob peth yn ein meddiant.
11Ein genau a agorwyd wrthych, O Gorinthiaid, ein calon a ehangwyd.
12Ni chyfyngir arnoch ynom ni, ond cyfyngir arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain.
13Ond am yr un daledigaeth (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd) ehanger chwithau hefyd.
14Nac iauer chwi yn anghymmarus â rhai digred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? Neu pa gymmundeb i oleuni a thywyllwch?
15A pha gyssondeb gan Grist â Belial? Neu pa gyfran i gredadyn gydag anghredadyn?
16A pha gyfundeb i deml Dduw ag eulunod? canys nyni teml i’r Duw byw ydym; fel y dywedodd Duw, “Preswyliaf ynddynt, a rhodiaf ynddynt, a byddaf eu Duw hwynt, a hwy a fyddant Fy mhobl I.”
17Gan hyny,
“Deuwch allan o’u canol, ac ymddidolwch, medd Iehofah,
Ac â pheth aflan na chyffyrddwch;
18Ac Myfi a’ch derbyniaf, ac a fyddaf i chwi yn dad,
A chwithau fyddwch i Mi yn feibion ac yn ferched, medd yr Arglwydd Hollalluog.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.