1Gan fod, gan hyny, a’r addewidion hyn genym, anwylyd, glanhawn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2Gwnewch le i ni yn eich calonnau. I neb ni wnaethom gam: nid oes neb a lygrasom;
3ar neb nid ennillasom. Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd, canys dywedais o’r blaen mai yn ein calonnau yr ydych, i gyd-farw a chyd-fyw â chwi.
4Llawer o hyfder ymadrodd sydd genyf wrthych; llawer o ymffrost sydd genyf am danoch; llawn wyf o ddiddanwch; tros fesur tra-chyflawn wyf o lawenydd yn ein holl orthrymder.
5Canys wedi dyfod o honom i Macedonia, nid oedd dim gorphwysfa i’n cnawd, eithr o bob parth gorthrymmid ni;
6oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. Eithr yr Hwn sy’n diddanu y rhai gostyngedig, sef Duw, a’n diddanodd trwy ddyfodiad Titus;
7ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad, eithr hefyd trwy’r diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch wrth fynegi o hono i ni eich hiraeth, eich galar, eich sel chwi tuag attaf, fel y bu i mi lawenychu yn fwy: canys er i mi eich tristau chwi â’m hepistol,
8nid yw’n edifar genyf, er y bu’n edifar genyf; canys gwelaf y bu i’r epistol hwnw, er ond am ryw amser, eich tristau chwi.
9Yn awr llawenychaf, nid am eich tristau, eithr am eich tristau i edifeirwch; canys tristawyd chwi yn ol Duw, fel na chaech golled mewn dim genym ni;
10canys tristwch yn ol Duw, edifeirwch i iachawdwriaeth, o’r hon nid oes edifeirwch, a weithia efe; ond tristwch y byd, marwolaeth a weithia efe.
11Canys wele, y peth hwn ei hun, eich tristau yn ol Duw, pa faint o astudrwydd a weithiodd efe ynoch, ïe o ymddiffyn, ïe o sorriant, ïe o ofn, ïe o hiraeth, ïe o sel, ïe o ddial. Ymhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y matter.
12Felly, er ysgrifenu o honof attoch, nid oblegid yr hwn a wnaeth y cam yr oedd, nac oblegid yr hwn a gafodd y cam, eithr fel yr amlyger eich astudrwydd am danom i chwi eich hunain ger bron Duw.
13O achos hyn y’n diddanwyd; ac yn ein diddanwch, mwy tros fesur y llawenychasom am lawenydd Titus, o herwydd dadebru ei yspryd ef genych oll.
14Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni’m cywilyddiwyd; eithr fel mewn gwirionedd y llefarasom bob peth wrthych, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd.
15A’i ymysgaroedd ef sydd fwy tros fesur tuag attoch, wrth adgofio o hono ufudd-dod yr oll o honoch, y modd gydag ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
16Llawenychaf gan mai ymhob peth yr hyderaf ynoch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.