1 ymgyttunasant;
—Ymaith yr aethant hwy ynghŷd!
6Hwynt-hwy a welsant; felly y synnasant,
A brawychasant, ar ffrwst yr aethant ymaith,
7Arswyd a ymaflodd arnynt yno,
—Dolur, megis gwraig yn esgor,—
8Gan wỳnt y dwyrain,
Yr hwn a chwilfriwia longau Tarshish.
9Megis y clywsom, felly y gwelsom,
Yn ninas Iehofah y lluoedd, yn ninas ein Duw:
Duw a’i sicrha hi hyd dragywyddoldeb! Selah.
10Cofio yr ydym, O Dduw, Dy radlondeb,
O fewn Dy deml!
11Megis y mae Dy enw, O Dduw,
Felly Dy fawl Di hyd eithafoedd y ddaear;
O gyfiawnder llawn yw Dy ddeheulaw!
12Llawenychu y mae mynydd Tsïon,
Gorfoleddu y mae merched Iwdah,
O herwydd Dy farnedigaethau Di!
13Amgylchwch Tsïon, ewch o’i hamgylch hi,
Rhifwch ei thyrau,
14Gosodwch eich ystyriaeth ar ei rhagfuriau,
Myfyriwch ar ei phalasau,
Er mwyn dywedyd o honoch i ’r genhedlaeth i ddyfod:
15Canys Efe,—Duw, ein Duw ni yn dragywydd a byth,
Efe a’n tywys ni hyd angau!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.