1Gwrandêwch hyn, tŷ Iacob,
Y rhai a elwir ar enw Israel,
Ac o ddyfroedd Iwdah a ddaethant allan;
Y rhai (sy) ’n tyngu i enw Iehofah;
Ac am Dduw Israel a wnant goffhâd,
(Ond) nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder.
2Canys ar (enw) ’r ddinas Sanctaidd y galwyd hwynt,
A chan Dduw Israel y cynnaliwyd hwynt;
Iehofah y lluoedd (yw) Ei enw.
3Y pethau cyn hyn er cynt a fynegais,
Ac o’m genau y daethant, a Mi a’u hyspysais,
Yn ddisymmwth y gwnaethum, a hwy a ddaethant.
4O herwydd im ’wybod mai caled (oeddit) ti,
A gïeuyn haiarn dy warr di,
A’th dalcen yn bres,
5Am hynny mynegais (hwynt) i ti er cynt,
Cyn iddo ddyfod gwnaethum it’ ei glywed,
Rhag dywedyd o honot, Fy nelw a’u gwnaeth,
A’m cerf-ddelw, a’m tawdd-ddelw a’u gorchymmynodd.
6Ti a glywaist, gwêl hyn oll;
A chwithau, oni fynegwch chwi (ef)?
Yr wyf yn peri i ti glywed pethau newyddion o’r pryd hyn,
A phethau cuddiedig, ac ni wybuost hwynt.
7Y pryd hyn y crewyd hwynt, ac nid er cynt,
A chyn y dydd (hwn) ni chlywaist sôn am danynt,
Rhag dywedyd o honot, Wele, gwyddwn hwynt;
8Ië nis clywaist, ië nis gwybuost,
Ië er cynt nid agorwyd dy glust,
Canys gwyddwn gan fod yn anffyddlon y byddit anffyddlon,
A “Throseddwr” o’r groth y’th alwyd di.
9Er mwyn Fy enw yr oedaf Fy llid,
Ac (er mwyn) Fy mawl y ffrwynaf (ef) oddi wrthyt
Rhag dy ddifetha.
10Wele, purais di ond nid fel arian,
Profais di mewn pair cystudd.
11Er mwyn Fy hun y gwnaf hyn, canys pa fodd yr haloger (Fy enw)?
A’m gogoniant i arall nis rhoddaf.
12Gwrando arnaf Fi, Iacob,
Ac Israel, yr hwn a elwais;
Myfi (yw) Efe,
Myfi (yw) ’r Cyntaf, a Myfi y Diweddaf.
13Ië, Fy llaw I a seiliodd y ddaear,
A’m deheulaw a rychwantodd y nefoedd;
A 2Myfi yn 1galw arnynt, hwy a safasant ynghŷd.
14Ymgesglwch chwi oll, gwrandêwch;
Pwy yn eich plith a fynegodd y pethau hyn?
Yr hwn y bu i Iehofah ei hoffi, efe a wna
Ei ewyllys Ef ar Babilon, (ac a fydd) yn fraich Iddo ar y Caldeaid.
15Myfi, Myfi a leferais, ië gelwais ef,
Perais iddo ddyfod, a llwyddo a wna ei ffordd ef.
16Nesêwch attaf, a gwrandêwch hyn;
『2O’r dechreuad』 1nid yn y dirgel y lleferais,
Cyn yr amser y digwydd (hynny), 2Myfi (sydd) 1yno;
Ac yn awr yr Arglwydd Iehofah a’m hanfonodd, a’i yspryd Ef.
17Fel hyn y dywed Iehofah,
Dy Adbrynwr, Sanct Israel,
Myfi (yw) Iehofah dy Dduw,
Yr Hwn sy’n dy ddysgu di yr hyn a leshâ,
Yr Hwn sy’n dy hyfforddi yn y ffordd a rodiech.
18O na wrandawsit ar Fy ngorchymynion!
Yna 『2fel yr afon』 『1y buasai』 dy heddwch,
A’th gyfiawnder fel tonnau ’r môr,
19Ac 『2fel y tywod』 y 1buasai dy hâd,
Ac eppil dy berfedd di fel ei berfedd yntau;
Ni thorrasid, ac ni ddinystriasid dy enw oddi ger Fy mron.
20Deuwch allan o Babilon, ffowch o (wlad) y Caldeaid â llef gorfoledd,
Mynegwch, hyspyswch hyn, perwch iddo fyned allan hyd eithafoedd y ddaear,
Dywedwch, Adbrynodd Iehofah Ei was Iacob.
21Ac ni sychedasant yn yr anialdiroedd y gwnaeth Efe iddynt fyned (drwyddynt),
Dyfroedd o’r graig a wnaeth Efe i darddu iddynt,
Ac Efe a holltodd y graig, a dylifodd dyfroedd.
22Nid oes heddwch, medd Iehofah, i’r rhai annuwiol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.