1Iago, gwas i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth y sydd ar wasgar: llawenydd i chwi.
2Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan mewn profedigaethau amrywiol y syrthioch,
3gan wybod fod prawf eich ffydd yn gweithredu amynedd;
4ond bydded i amynedd fod a’i gwaith perffaith ganddi, fel y byddoch yn berffaith a chyfan, heb fod ar ol mewn dim.
5Ond os yw neb o honoch ar ol am ddoethineb, gofyned gan Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi i bawb yn haelionus, ac nid yw’n dannod, a rhoddir iddo:
6ond gofyned mewn ffydd, heb ammeu dim, canys yr hwn sydd yn ammeu, tebyg yw i dón y môr, y sy’n cael ei gyrru gan y gwynt a’i thaflu;
7canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn ddim gan yr Arglwydd,
8ac efe yn ŵr dau-ddyblyg ei feddwl, yn ansefydlog yn ei holl ffyrdd.
9Ond ymffrostied y brawd o isel radd, yn ei uchafiaeth;
10a’r goludog, yn ei ddarostyngiad, canys fel blodeuyn glaswelltyn yr aiff heibio;
11canys cyfodi y mae’r haul gyda’r gwynt poeth, ac yn sychu i fynu y glaswelltyn; a’i flodeuyn ef sy’n syrthio, a thegwch ei bryd yn darfod am dano; felly hefyd y goludog yn ei fynediadau y gwywa.
12Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef temtasiwn; canys wedi myned yn brofedig, caiff goron y bywyd, yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu.
13Na fydded i neb, pan y’i temtir, ddywedyd, Oddiwrth Dduw y’m temtir; canys Duw, heb Ei demtio gan ddrygau y mae, ac nid yw Efe yn temtio neb;
14ond pob un sy’n cael ei demtio, pan gan ei chwant ei hun y’i tynnir allan ac y’i llithir.
15Wedi hyny chwant, wedi ymddwyn, sy’n esgor ar bechod; a phechod, wedi ei orphen, sy’n esgor ar farwolaeth.
16Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn, fy mrodyr anwyl.
17Pob rhoddiad da, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, gyda’r Hwn nid oes cyfnewidiad na chysgod tröedigaeth.
18Wedi ewyllysio o Hono, y cenhedlodd Efe ni trwy Air y gwirionedd, fel y byddem ni ryw flaen-ffrwyth o’i greaduriaid.
19Gwyddoch hyn, fy mrodyr anwyl; ond bydded pob dyn yn esgud i glywed, yn hwyrfrydig i lefaru, yn hwyrfrydig i ddigofaint;
20canys digofaint dyn, cyfiawnder Duw nis gweithreda.
21O herwydd paham, gan roddi ymaith bob budreddi a helaethrwydd drygioni, gydag addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn sydd abl i gadw eich eneidiau.
22Ond byddwch wneuthurwyr y Gair, ac nid gwrandawyr yn unig, yn twyllo eich hunain;
23canys os yw neb yn wrandawr y Gair, ac nid yn wneuthurwr, hwn sydd debyg i ŵr yn ystyried ei wynebpryd naturiol mewn drych;
24canys ystyria ei hun, ac ymaith yr â, ac yn uniawn yr anghofia pa fath o ddyn ydyw.
25Ond yr hwn a ymgrymmodd i edrych yn y gyfraith berffaith, cyfraith rhyddid, ac a barhaodd ynddi, wedi myned nid yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithred, hwn, dedwydd yn ei wneuthuriad fydd.
26Os yw neb yn meddwl ei fod yn wasanaethwr crefyddol, heb ffrwyno ei dafod, eithr yn twyllo ei galon, gwasanaeth crefyddol hwn sydd ofer.
27Gwasanaeth crefyddol pur a dihalog ger bron Duw a’r Tad yw hwn, sef ymweled â phlant amddifaid a gwragedd gweddwon, yn eu gorthrymder, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.