1A gwelais, pan agorodd yr Oen un o’r saith sel, a chlywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel swn taran, Tyred;
2a gwelais, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo fwa: a rhoddwyd iddo goron; ac aeth allan yn gorchfygu, ac fel y gorchfygai.
3A phan agorodd yr ail sel, clywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a daeth allan farch arall, un coch;
4ac i’r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd cymmeryd heddwch o’r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.
5A phan agorodd y drydedd sel, clywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred; ac edrychais, ac wele farch du; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo glorian yn ei law;
6a chlywais fel pe bai llais ynghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Choinics o wenith er denar, a thri choinics o haidd er denar; a’r olew a’r gwin, na wna niweid iddynt.
7A phan agorodd y bedwaredd sel, clywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred;
8a gwelais, ac wele, farch gwelw-las; a’r hwn oedd yn eistedd arno, yr enw iddo oedd Marwolaeth; ac Hades a ganlynai gydag ef; a rhoddwyd iddo awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf ac â newyn ac â marwolaeth a thrwy fwystfilod y ddaear.
9A phan agorodd y bummed sel, gwelais tan yr allor eneidiau y rhai a laddesid oblegid gair Duw ac oblegid y dystiolaeth oedd ganddynt;
10a gwaeddasant â llais mawr, gan ddywedyd, Hyd pa hyd, Feistr, y Sanctaidd a Gwir, nad wyt yn barnu, ac yn cymmeryd dialedd ein gwaed ar y rhai sy’n trigo ar y ddaear?
11A rhoddwyd iddynt, i bob un, laes-wisg wen; a dywedwyd wrthynt orphwys etto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd ar fedr eu lladd, fel y cawsent hwythau hefyd.
12A gwelais pan agorodd y chweched sel, a daear-gryn mawr a ddigwyddodd, a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew,
13a’r lleuad i gyd a aeth fel gwaed, a ser y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae ffigys-bren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan gan wynt mawr yr ysgydwir;
14a’r nef a roddwyd heibio fel ysgrif-rol, pan y’i torchir; a phob mynydd ac ynys o’u lleoedd y’u symmudwyd;
15a brenhinoedd y ddaear, a’r pennaethiaid, a’r milwriaid, a’r goludogion, a’r rhai cedyrn, a phob caethwas a gŵr rhydd, a guddiasant eu hunain yn y gogfeydd ac ynghreigiau y mynyddoedd;
16a dywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni oddiwrth wyneb yr Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lid yr Oen,
17canys daeth dydd mawr eu llid, a phwy a eill sefyll?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.