1Dilynwch gariad, ond chwenychwch yr ysprydol bethau, ond mwyaf, y bo i chwi brophwydo;
2canys yr hwn sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y llefara, eithr wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y llefara ddirgeledigaethau.
3Ond yr hwn sy’n prophwydo, wrth ddynion y llefara adeiladaeth a diddanwch a chysur.
4Yr hwn sy’n llefaru â thafod, ef ei hun a adeilada efe; ond yr hwn sy’n prophwydo, yr eglwys a adeilada efe.
5Ac ewyllysiwn i’r oll o honoch lefaru â thafodau; ond yn fwy i chwi brophwydo; a mwy yw’r hwn sy’n prophwydo na’r hwn sy’n llefaru â thafodau, oddieithr cyfieithu o hono fel y bo i’r eglwys dderbyn adeiladaeth.
6Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa lesad a wnaf i chwi, os nad wrthych y llefaraf naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy ddysgad?
7Beth bynnag, y pethau heb fywyd, yn rhoddi sain, pa un bynnag ai pibell, ai telyn, os gwahaniaeth yn y seiniau na roddant, pa wedd y gwybyddir yr hyn a genir â’r bibell neu ar y delyn?
8Ac os sain aneglur y bydd yr udgorn yn ei roi, pwy a ymbarottoa i ryfel?
9Felly chwithau hefyd â’r tafod, os nad ymadrodd dealladwy a roddwch, pa wedd y gwybyddir yr hyn a leferir, canys i’r awyr y byddwch yn llefaru?
10Cymmaint ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau sydd yn y byd, ac nid oes un rhywogaeth yn aflafar.
11Os, gan hyny, na wn rym y llais, byddaf i’r hwn sy’n llefaru, yn farbariad; a’r hwn sy’n llefaru fydd i minnau yn farbariad.
12Felly chwithau hefyd, gan mai awyddus ydych i ddoniau ysprydol, er adeiladaeth yr eglwys, ceisiwch fod ag helaethder genych.
13Gan hyny, yr hwn sy’n llefaru â thafod, gweddïed y bo iddo gyfieithu;
14canys os gweddïaf â thafod, fy yspryd a weddïa, ond fy neall sydd yn ddiffrwyth.
15Pa beth, gan hyny, sydd? Gweddïaf â’r yspryd, a gweddïaf â’r meddwl hefyd: canaf â’r yspryd, a chanaf â’r meddwl hefyd.
16Canys os bendithi â’r yspryd, pa wedd y bydd i’r hwn sy’n cyflawni lle’r anghyfarwydd ddweud yr Amen ar dy ddodiad diolch di, pan na ŵyr pa beth yr wyt yn ei ddywedyd?
17Canys tydi yn wir, da y diolchi, eithr y llall nid adeiledir.
18Diolch yr wyf i Dduw, mwy na’r oll o honoch y llefaraf â thafodau;
19eithr yn yr eglwys ewyllysiwn lefaru pum gair â’m deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, rhagor myrddiynau o eiriau â thafod.
20 Fy mrodyr, na fyddwch blant mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn deall byddwch berffaith.
21Yn y Gyfraith yr ysgrifenwyd, “Trwy rai estronieithus, ac â gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed felly, ni’m gwrandawant, medd yr Arglwydd.”
22Felly tafodau, er arwydd y maent, nid i’r rhai sy’n credu, eithr i’r rhai digred; ond prophwydoliaeth, nid i’r rhai digred, ond i’r rhai sy’n credu.
23Gan hyny, os daw yr eglwys oll ynghyd, a phawb a lefarant â thafodau, a dyfod i mewn o rai anghyfarwydd neu ddigred, oni ddywedant mai allan o’ch pwyll yr ydych?
24Ond os pawb a brophwydant, a dyfod i mewn o ryw un digred neu anghyfarwydd, argyhoeddir ef gan bawb, bernir ef gan bawb, dirgelion ei galon a ant yn amlwg;
25ac felly, wedi syrthio ar ei wyneb, yr addola Dduw gan fynegi, Yn wir, Duw sydd yn eich plith.
26Pa beth, gan hyny, sydd, frodyr? Pan ddeloch ynghyd, pob un sydd â psalm ganddo, â dysgad ganddo, â datguddiad ganddo, â thafod ganddo, â chyfieithiad ganddo.
27Bydded i bob peth ei wneuthur er adeiladaeth. Os â thafod y bydd neb yn llefaru, bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, bydded, a hyny ar gylch, a bydded i un gyfieithu;
28ond os na fydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; ac wrtho ei hun llefared, ac wrth Dduw.
29Ond y prophwydi, bydded i ddau neu dri lefaru, ac i’r lleill wahan-farnu.
30Ond os i un arall y datguddier yn ei eistedd, bydded i’r cyntaf dewi;
31canys bob yn un y gellwch oll brophwydo, fel y bo i bawb ddysgu a phawb eu diddanu;
32ac ysprydoedd y prophwydi, i’r prophwydi y darostyngir hwynt;
33canys nid yw Duw yn Dduw annhrefn, eithr yn Dduw heddwch, fel yn holl eglwysi’r saint.
34Y gwragedd, yn yr eglwysi tawont, canys ni chaniatteir iddynt lefaru, eithr darostynger hwynt, fel y mae’r Gyfraith hefyd yn dywedyd:
35ond os dysgu rhyw beth a ewyllysiant, gartref â’u gwŷr eu hunain ymofynont, canys cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
36Ai oddiwrthych chwi y bu i air Duw ddyfod allan; neu attoch chwi yn unig y daeth?
37Os tybia neb ei fod yn brophwyd neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifenu attoch mai gorchymyn yr Arglwydd ydynt;
38ond os yw neb heb wybod, heb wybod y bo.
39Felly, fy mrodyr, dymunwch brophwydo; a llefaru â thafodau na warherddwch;
40ond bydded i bob peth ei wneud yn weddaidd ac mewn trefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.