I. Petr 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Petr, apostol i Iesu Grist, at yr etholedigion (ymdeithyddion y Gwasgariad yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithunia),

2yn ol rhag-wybodaeth Duw Dad, yn sancteiddiad yr Yspryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer.

3Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol Ei fawr drugaredd a’n had-genhedlodd i obaith byw trwy adgyfodiad Iesu Grist o feirw,

4i etifeddiaeth anllygradwy, a dihalogedig, a diddiflannedig,

5mewn cadw yn y nef i chwi, y rhai trwy allu Duw sy’n cael eich gwarchadw trwy ffydd i iachawdwriaeth barod i’w datguddio yn yr amser diweddaf:

6yn yr hwn yr ydych yn gorfoleddu, er am ychydig yn awr, os rhaid sydd, wedi eich tristau mewn amryw demtasiynau,

7fel y bo i brofiad eich ffydd, yr hwn sydd werthfawrusach nag aur y sy’n darfod a thrwy dân yn cael ei brofi, ei gaffael er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist;

8yr Hwn, heb Ei weled, yr ydych yn Ei garu, yn yr Hwn, heb fod yn awr yn Ei weled, ond yn credu, gorfoleddu yr ydych â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddedig;

9yn derbyn diwedd eich ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau;

10am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi, gan chwilio pa bryd,

11neu ba ryw bryd, a hyspysai Yspryd Crist, yr Hwn oedd ynddynt, wrth rhag-dystiolaethu o Hono y dioddefiadau o ran Crist, a’r gogoniant ar eu hol;

12i’r rhai y datguddiwyd mai nid iddynt hwy eu hunain, ond i chwi y gweinyddent y pethau sydd yn awr wedi eu mynegi i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Yspryd Glân wedi ei ddanfon o’r nef: i’r hyn bethau y chwennych angylion ymgrymmu i edrych.

13O herwydd paham, wedi gwregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras sy’n cael ei ddwyn attoch yn natguddiad Iesu Grist;

14megis plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’ch chwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth:

15eithr yn ol yr Hwn a’ch galwodd, Y Sanctaidd, chwithau hefyd byddwch sanctaidd ym mhob ymarweddiad;

16oblegid yr ysgrifenwyd, “Sanctaidd fyddwch, canys Myfi wyf sanctaidd.”

17Ac os megis Tad, yr ydych yn galw ar yr Hwn sydd heb dderbyn gwyneb, yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn,

18gan wybod mai nid â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd o’ch ofer ymarweddiad a draddodwyd oddiwrth eich tadau,

19eithr â gwerthfawr waed, fel eiddo oen dianaf a difrycheulyd,

20sef gwaed Crist, yr Hwn a rag-adnabuwyd yn wir cyn seiliad y byd, ond a amlygwyd yn niwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi,

21y rhai, Trwyddo Ef, ydych yn gredinwyr yn Nuw yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw, a gogoniant a roddodd Iddo Ef, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith yn Nuw.

22Eithr eneidiau wedi eu puro genych yn eich ufudd-dod i’r Gwirionedd, i frawdgarwch diragrith, o’r galon cerwch y naill y llall yn llwyrfrydig,

23wedi eich adgenhedlu, nid o had llygradwy, eithr anllygradwy, trwy Air byw Duw a pharhaus:

24canys

“Pob cnawd sydd fel glaswelltyn,

A’i holl ogoniant fel blodeuyn y glaswelltyn:

Sychir y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrth,

25Ond gair Iehofah sy’n aros yn dragywydd:”

a hwn yw’r gair a efengylwyd i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help