Eshaiah 52 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LII.

1Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Tsïon.

Gwisg wisgoedd dy ogoniant, Ierwshalem, ddinas sanctaidd,

Canys ni chwannega r 『2dienwaededig a’r aflan』 『1i ddyfod o’th fewn etto.』

2Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd, Ierwshalem,

Dattod i ti dy hun rwymau dy wddf, gaethferch Tsïon.

3Canys fel hyn y dywed Iehofah,

Am ddim y’ch gwerthwyd chwi,

Ac nid âg arian y’ch adbrynir.

4Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah,

I’r Aipht yr aeth Fy mhobl i waered

Yn y dechreuad, i drigo yno;

A’r Assyriad yn ddïachos a’u gorthrymmodd.

5Ac yn awr pa beth (sydd) i Mi (i’w wneuthur) ar hyn, medd Iehofah?

Canys dygpwyd Fy mhobl ymaith am ddim,

A’u llywodraethwŷr (sy) ’n ymffrostio, medd Iehofah,

A beunydd bob dydd Fy enw a geblir.

6Gan hynny yr adnebydd Fy mhobl Fy enw yn y dydd hwnnw,

Canys Myfi (yw) Efe yn dywedyd Wele Fi.

7 Mor brydferth ar y mynyddoedd

Yw traed yr efengylwr yn cyhoeddi heddwch,

Yn efengylu daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth,

Yn dywedyd wrth Tsïon, Teyrnasu y mae dy Dduw di.

8Llef y mae dy wylwŷr yn ei dyrchafu, llef y maent yn cydseinio ’n llawen,

Canys llygad ar lygad yr edrychant, pan ddychwelo Iehofah i Tsïon.

9Torrwch allan â llawen-gân ynghŷd, anialoedd Ierwshalem,

Canys cysurodd Iehofah Ei bobl, adbrynodd Ierwshalem.

10Dïosgodd Iehofah fraich Ei sancteiddrwydd yngolwg yr holl genhedloedd,

A gwelodd holl gyrrau ’r ddaear iachawdwriaeth ein Duw ni.

11Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno; â’r halogedig na chyffyrddwch;

Ewch allan o’i chanol, ymlanhêwch, y rhai (sy) ’n dwyn llestri Iehofah.

12Canys nid ar frys y cewch fyned allan,

Ac nid ar ffo y cewch fyned;

Canys 『2o’ch blaen chwi』 yr 1aiff Iehofah,

A’r hwn a gasgl eich olion (yw) Duw Israel.

13 Wele, llwyddo a wna Fy ngwas,

Uchel-godir ef, dyrchefir ef, a bydd uchel odiaeth.

14Megis y synnodd ar 2lawer 『1o’th achos,』

Cymmaint yr hacrwyd 『2ei wynebpryd』 『1yn anad neb,』

A’i bryd yn anad meibion dynion!

15Felly y taenella efe genhedloedd lawer;

Wrtho ef y caua brenhinoedd eu genau,

Canys yr hyn na fynegasid iddynt hwy a gânt weled,

A’r hyn na chlywsant, hwy a gânt ystyried.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help