Rhufeiniaid 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Pa beth, gan hyny, a ddywedwn y cafodd Abraham ein cyn-dad yn ol y cnawd?

2Canys, os Abraham trwy weithredoedd a gyfiawnhawyd, y mae ganddo fatter ymffrost,

3eithr nid tua Duw, canys pa beth y mae’r Ysgrythyr yn ei ddweud? “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”

4Ac i’r hwn sy’n gweithio, y gwobr ni chyfrifir o ras, eithr o ddyled;

5ond i’r hwn nad yw yn gweithio, ond yn credu yn yr Hwn sy’n cyfiawnhau yr annuwiol,

6cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder: fel y mae Dafydd hefyd yn adrodd dedwyddwch y dyn i’r hwn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder yn wahan oddiwrth weithredoedd,

7“Dedwydd y rhai y maddeuwyd eu hanghyfreithderau,

Ac y gorchuddiwyd eu pechodau;

8Dedwydd y gŵr i’r hwn ni chyfrif Iehofah bechod.”

9Y dedwyddwch hwn, gan hyny, ai ar yr amdorriad y mae, neu ar y di-amdorriad hefyd? Canys dywedwn,

10Cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gan hyny, y cyfrifwyd hi? Ai pan yn yr amdorriad yr ydoedd, neu yn y di-amdorriad? Nid yn yr amdorriad, eithr yn y di-amdorriad.

11Ac arwydd yr amdorriad a gafodd efe, yn sel cyfiawnder ei ffydd, yr hon oedd yn y di-amdorriad, fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, er mewn di-amdorriad,

12fel y cyfrifer cyfiawnder iddynt; ac yn dad yr amdorriad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r amdorriad, eithr sydd hefyd yn rhodio yn olion ffydd ein tad Abraham tra yn y di-amdorriad,

13Canys nid trwy’r Gyfraith yr oedd yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.

14Canys os y rhai sydd o’r Gyfraith ydynt etifeddion, gwaghawyd ffydd, a dirymwyd yr addewid:

15canys y Gyfraith, digofaint a weithia hi; ond lle nad oes Cyfraith nid oes trosedd.

16O herwydd hyn o ffydd y mae, fel yn ol gras y byddo, fel y byddo’r addewid yn ddiymmod i’r holl had, nid i’r hwn sydd yn unig o’r Gyfraith, eithr hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham,

17yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifenwyd, “Tad llawer o genhedloedd y’th wnaethum,”) ger bron yr Hwn y credodd efe Iddo, sef Duw y sy’n bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent;

18yr hwn yn erbyn gobaith, dan obaith a gredodd, fel yr elai efe yn dad llawer o genhedloedd, yn ol yr hyn a ddywedasid, “Felly y bydd dy had.”

19Ac heb fod yn wan mewn ffydd, ystyriodd ei gorph ei hun yn awr megis wedi ei farwhau (ac efe ynghylch can mlwydd oed) a marweidd-dra bru Sarah;

20ond tuag at addewid Duw nid ammheuodd trwy anghrediniaeth, eithr nerthwyd ef trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw,

21ac yn gwbl sicr ganddo, mai yr hyn a addawsai Efe, Ei fod hefyd yn abl i’w wneuthur ef:

22ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

23Ac nid ysgrifenwyd er ei fwyn ef yn unig, “Y cyfrifwyd iddo,”

24eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr Hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw,

25yr hwn a draddodwyd o achos ein camweddau, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help