1 gweledigaeth eshaiah mab amotz yr hon a welodd efe am iwdah a ierwshalem yn nyddiau wzzïah, iotham, ahaz a hezekïah brenhinoedd iwdah.
2Gwrandeŵch, nefoedd; a chlyw, ddaear,
Canys Iehofah sydd yn llefaru.
Meibion a fegais ac a feithrinais,
A hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.
3Edwyn yr ŷch ei feddiannydd,
A’r asyn breseb ei berchennog;
Ond Israel, Myfi nid edwyn,
Fy mhobl nid ystyria.
4Oh genedl bechadurus! pobl lwythog o anwiredd!
Hâd y rhai drygionus! meibion llygredig!
Ymadawsant âg Iehofah,
Dirmygasant Sanct Israel,
Ymddieithrasant (gan gilio) yn ol.
5 Ar ba (aelod) y’ch tarewir etto, yr ychwanegwch gerydd?
Y pen oll (sydd) glwyfus, a’r holl galon yn llesg;
6O wadn y troed hyd y pen nid (oes) ynddo le cyfan,
(Ond) archoll, a chlais, a gweli crawnllyd;
Ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd hwynt,
Ac ni thynnerwyd âg olew.
7Eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi a thân;
Eich tir, yn eich gŵydd (y mae) dieithriaid yn ei ysu,
Ac wedi ei anrheithio (y mae), fel dymchweledig gan lifeiriant.
8A gadawyd merch Tsïon megis lluesty mewn gwinllan,
Megis lletty mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaëedig.
9Oni buasai i Iehofah y lluoedd adael i ni weddill, ïe, ond ychydig,
Fel Sodom y buasem, i Gomorrah y buasem yn gyffelyb.
10Gwrandeŵch air Iehofah, tywysogion Sodom,
Clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorrah.
11Beth i Mi (yw) llïosowgrwydd eich aberthau? medd Iehofah;
Gorddigonwyd Fi o boeth-aberthau hyrddod a brasder pasgedigion;
Gwaed bustych hefyd ac ŵyn a bychod, nid wyf yn ymhyfrydu ynddynt.
12Pan ddeloch i ymddangos ger Fy mron,
Pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, (sef) sengi Fy nghynteddau?
13Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer.
Arogl-darth! ffieidd-dra yw hyny i Mi;
Y newydd-loer, a’r Sabboth, a’r gymmanfa gyhoeddedig,
Nis gallaf eu dioddef, (ïe) yr ympryd a’r dydd gwahardd.
14Eich misoedd, a’ch gwyliau gosodedig a gasâ Fy enaid,
Y maent i Mi yn faich, blinais yn eu dwyn.
15A phan ledoch eich dwylaw, cuddiaf Fy llygaid rhagoch,
Hefyd pan amlâoch weddi, ni (byddaf) Fi yn gwrandaw!
Eich dwylaw o waed a lanwyd.
16Ymolchwch, ymlanhêwch,
Bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron Fy llygaid,
Peidiwch â gwneuthur drwg.
17Dysgwch wneuthur daioni, ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymmedig,
Gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw.
18Deuwch ynte, ac ymresymmwn, medd Iehofah;
Er bod eich pechodau fel ysgarlad, fel eira y gwynant,
Er mai cochion ydynt fel porphor, fel gwlan y byddant.
19Os ewyllysgar ac ufudd a fyddwch,
Daioni ’r tir a fwyttewch:
20Ond os gwrthod a gwrthryfela a wnewch,
 chleddyf y’ch ysir,
Canys genau Iehofah a’i llefarodd.
21Pa wedd yr aeth y 2ddinas 3ffyddlon yn 1buttain!
Cyflawn fu o farn, cyfiawnder a lettŷodd ynddi,
Ond yr awr hon lleiddiaid.
22Dy arian a aeth yn sothach,
Dy win sydd wedi ei gymmysgu â dwfr;
23Dy dywysogion yn rhyfelgar, ac yn gyfrannogion â lladron;
Pob un o honynt yn caru rhodd ac yn ymlid ar ol gwobrau;
Yr amddifad ni farnant,
A chŵyn y weddw ni ddaw attynt.
24Am hynny medd yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd,
Cadarn yr Israel,
Aha; ymgysuraf ar Fy ngwrthwynebwŷr,
Ac ymddïalaf ar Fy ngelynion.
25Ac Mi a ddychwelaf Fy llaw arnat,
Mi a lân-buraf dy sothach,
Ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.
26Adferaf hefyd dy farnwŷr fel cynt,
A’th gynghoriaid megis yn y dechreu;
Wedi hynny y’th elwir di,
Dinas cyfiawnder, Tref ffyddlon.
27Tsïon mewn barn a waredir,
A’i chaethion mewn cyfiawnder.
28A dinystr y troseddwŷr a’r pechaduriaid (fydd) ynghŷd,
A’r rhai a ymadawant âg Iehofah a ddifethir.
29Canys cywilyddiant o achos y prinwydd a chwenychasoch,
A gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.
30Canys byddwch fel prinwydden a’i dail yn syrthio,
Ac fel gardd yr hon 2 nid (oes) 1 dwfr ynddi.
31A bydd y cadarn yn garth, a’i waith yn wreichionen,e
A llosgant ill dau ynghŷd, ac ni bydd a’u diffoddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.