Yr Actau 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A hwy yn llefaru wrth y bobl daeth arnynt yr offeiriaid, a chadben y deml,

2a’r Tsadwceaid, gwedi eu poeni am ddysgu o honynt y bobl, a chyhoeddi, yn yr Iesu, yr adgyfodiad o feirw.

3A dodasant eu dwylaw arnynt, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth, erbyn trannoeth, canys yr oedd hi weithian yn hwyr.

4Ond llawer o’r rhai a glywsant y Gair, a gredasant; a gwnaed rhifedi y gwŷr ynghylch pum mil.

5A bu drannoeth y casglwyd ynghyd eu pennaethiaid ac yr henuriaid a’r ysgrifenyddion yn Ierwshalem,

6ac Annas yr archoffeiriad, a Caiaphas ac Ioan ac Alecsander, a chynnifer ag oedd o’r genedl archoffeiriadol.

7Ac wedi eu gosod hwy yn y canol, gofynasant. Trwy ba awdurdod neu ym mha enw y gwnaethoch chwi y peth hwn?

8Yna Petr, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt,

9Pennaethiaid y bobl, ac henuriaid, os ni a holir heddyw am y weithred dda i’r dyn claf, trwy bwy yr iachawyd ef, bydded hysbys i chwi oll,

10ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Natsaread; yr Hwn, chwi a’i croes-hoeliasoch; yr Hwn, Duw a’i cyfododd o feirw, Trwyddo Ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.

11Efe yw’r maen a ddiystyrwyd genych chwi yr adeiladwyr, wedi Ei wneud yn ben y gongl;

12ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth, canys nid oes o gwbl enw arall tan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae rhaid i ni fod yn gadwedig.

13Ac wedi gweled hyfder Petr ac Ioan, a chanfod mai dynion anllythrennog oeddynt ac heb addysg, rhyfeddasant, a chymmerasant wybodaeth o honynt mai gyda’r Iesu y buasent,

14a chan weled y dyn yn sefyll gyda hwynt, sef yr hwn a iachesid, nid oedd ganddynt ddim i wrth-ddywedyd.

15Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o’r Cynghor,

16ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn i’r dynion hyn? canys yn wir bod arwydd hynod wedi ei wneuthur trwyddynt, i bawb sy’n trigo yn Ierwshalem y mae’n amlwg,

17ac nis gallwn ei wadu: eithr fel na thaner ym mhellach ym mhlith y bobl, bygythiwn hwynt na lefaront mwyach yn yr enw hwn i un dyn.

18Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant iddynt beidio ag ynganu o gwbl na dysgu yn enw yr Iesu.

19Ond Petr ac Ioan, gan atteb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch:

20canys nis gallwn ni beidio â llefaru y pethau a welsom ac a glywsom.

21Eithr hwy, wedi eu bygwth hwynt ym mhellach, a’u gollyngasant yn rhyddion, heb gael dim fel y cospent hwynt, o achos y bobl, canys pawb a ogoneddent Dduw am y peth a wnaethpwyd;

22canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachad.

23Ac wedi eu gollwng yn rhyddion, aethant at yr eiddynt, a mynegasant cynnifer o bethau y bu i’r archoffeiriaid a’r henuriaid eu dywedyd wrthynt.

24A hwy, wedi clywed hyn, o un fryd a godasant eu llais at Dduw, a dywedasant, Arglwydd, Tydi, yr Hwn a wnaethost y nef a’r ddaear a’r môr ac oll y sydd ynddynt,

25yr Hwn trwy enau ein tad Dafydd Dy was, trwy’r Yspryd Glân, a ddywedaist,

“Paham y terfysgodd cenhedloedd,

A phobloedd a fyfyriasant wegi;

26Y safodd brenhinoedd y ddaear,

A’r pennaethiaid a gasglwyd ynghyd,

Yn erbyn Iehofah, ac yn erbyn Ei Grist?”

27canys casglwyd mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn Dy Sanct Fab Iesu, yr Hwn a enneiniaist, Herod a Pontius Pilat,

28gyda’r cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneuthur cynnifer o bethau ag y bu i’th law Di a’th gynghor eu rhag-ordeinio i ddigwydd.

29Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i’th weision lefaru,

30gyda phob hyfder, Dy Air Di, gydag estyn allan o Honot Dy law er iachad, a thrwy i arwyddion a rhyfeddodau ddigwydd trwy enw Dy Sanct Fab Iesu.

31Ac wedi gweddïo o honynt, siglwyd y fan lle yr oeddynt wedi eu casglu ynghyd, a llanwyd hwy oll o’r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.

32Ac i liaws y rhai a gredasant yr oedd un galon ac enaid; ac nid oedd hyd yn oed un a ddywedai fod dim o’i dda yn eiddo ef ei hun, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.

33Ac â gallu mawr y rhoddai yr apostolion eu tystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a gras mawr oedd ar yr oll o honynt:

34canys nid oedd chwaith neb mewn eisiau yn eu plith, canys cynnifer ag oeddynt berchenoedd tiroedd neu dai, gan eu gwerthu hwynt, deuent â gwerth y pethau a werthid,

35a dodent ef wrth draed yr apostolion, a rhennid i bob un yn ol yr hyn oedd arno eisiau.

36Ac Ioseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion, (yr hwn, o’i gyfieithu yw Mab Annogiad), yn Lefiad ac yn Cupriad o genedl,

37a maes ganddo, ac wedi ei werthu ef daeth a’r arian ac a’i dododd wrth draed yr apostolion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help