Colossiaid. 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Paul, apostol i Grist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimothëus ein brawd,

2at y saint a’r brodyr ffyddlawn yng Nghrist, y rhai sydd yn Colossa: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad.

3Diolch yr ydym i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist,

4gan weddïo yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad y sydd genych tuag at yr holl saint;

5o achos y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o’r blaen yngair gwirionedd yr Efengyl,

6yr hon a ddaeth attoch, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, yn yr un modd ag yn eich plith chwi er y dydd y clywsoch am, ac y gwybuoch, ras Duw mewn gwirionedd;

7fel y dysgasoch gan Epaphras ein cyd-was anwyl, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlawn weinidog i Grist;

8yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad yn yr Yspryd.

9O herwydd hyn, nyni hefyd er y dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch chwi, ac â deisyf y’ch cyflawner â gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doethineb a deall ysprydol,

10i rodio yn deilwng o’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chan gynnyddu yngwybodaeth am Dduw;

11yn cael eich nerthu â phob nerth yn ol cadernid Ei ogoniant, i bob dioddefgarwch a hir-ymaros gyda llawenydd;

12gan ddiolch i’r Tad yr Hwn a’n cymmwysodd i ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni;

13yr Hwn a’n gwaredodd o feddiant y tywyllwch,

14ac a’n trosglwyddodd i deyrnas Mab Ei gariad, yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth, maddeuant ein pechodau,

15yr Hwn yw llun y Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greedigaeth,

16canys Ynddo Ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r rhai anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai awdurdodau; yr oll, Trwyddo Ef ac Iddo Ef y’u crewyd;

17ac Efe sydd cyn na’r cwbl; a’r cwbl Ynddo Ef y cyd-safant.

18Ac Efe yw Pen y Corph, yr Eglwys, yr Hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig o’r meirw, fel ymhob peth y byddo Efe yn blaenori; canys Ynddo

19Ef y boddlonwyd y Tad ar i’r holl gyflawnder drigo,

20a Thrwyddo Ef gymmodi pob peth ag Ef Ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed Ei groes Ef, ïe, Trwyddo Ef, pa un bynnag ai’r pethau ar y ddaear, ai’r pethau yn y nefoedd.

21A chwychwi a oeddych gynt wedi ymddieithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg,

22er hyny, yn awr a gymmododd Efe, ynghorph Ei gnawd trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno yn sanctaidd ac yn ddianaf,

23ac yn ddiargyhoedd ger Ei fron, os parhewch yn y ffydd, wedi eich seilio ac yn ddiymmod, ac heb eich symmud ymaith oddiwrth obaith yr Efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greedigaeth y sydd tan y nef, i’r hon y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog.

24Yn awr, llawenychu yr wyf yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni yr hyn sydd ar ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd, er mwyn Ei gorph Ef, yr hwn yw’r Eglwys,

25i’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog yn ol disdeiniaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag attoch, i gyflawni gair Duw,

26y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd, a rhag y cenhedlaethau; ond yn awr yr eglurwyd ef i’w saint Ef,

27i’r rhai yr ewyllysiodd Duw hyspysu pa beth yw golud gogoniaut y dirgelwch hwn ymhlith y cenhedloedd, yr hwn ddirgelwch yw Crist ynoch, gobaith y gogoniant,

28yr hwn yr ydym ni yn Ei gyhoeddi, gan gynghori pob dyn, a chan ddysgu pob dyn ym mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist,

29am yr hyn hefyd yr wyf yn llafurio, gan ymdrechu yn ol Ei weithrediad Ef yr hon sy’n gweithredu ynof gyda nerth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help