Yr Actau 20 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac ar ol peidio o’r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y disgyblion, ac eu cynghori a’u cofleidio, a aeth allan i fyned i Macedonia;

2ac wedi tramwy trwy’r parthau hyny, a’u cynghori hwynt ag ymadrodd lawer, daeth i dir Groeg.

3Ac wedi treulio tri mis yno, cynllwyn wedi ei wneuthur gan yr Iwddewon iddo pan ar fedr morio i Suria, pender-fynodd ddychwelyd trwy Macedonia:

4a chyd-ymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, mab Purrhus, ac o’r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Dderbe, a Timothëus;

5ac o’r Asiaid, Tuchicus a Trophimus. A’r rhai hyn, wedi myned o’r blaen, a arhosasant am danom yn Troas,

6a ninnau a fordwyasom ymaith, ar ol dyddiau y bara croyw, o Philippi, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum niwrnod; ac yno yr arhosasom saith niwrnod.

7Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a nyni wedi dyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth, ac estynodd yr ymadrodd hyd hanner nos.

8Ac yr oedd llusernau lawer yn y llofft lle yr oeddym wedi dyfod ynghyd.

9A chan eistedd o ryw ŵr ieuangc a’i enw Eutuchus, yn y ffenestr, wedi syrthio i drymgwsg wrth ymresymmu o Paul yn helaethach, wedi ei ddwyn i wared gan ei gwsg, cwympodd i lawr o’r drydedd lofft, a chymmerwyd ef i fynu yn farw.

10Ac wedi myned i lawr, Paul a syrthiodd arno, a chan ei gofleidio, dywedodd, na chyffroed arnoch, canys y mae ei fywyd ynddo.

11Ac wedi myned i fynu, a thorri’r bara, a bwytta, ac ymddiddan am amser hir, hyd dorriad y dydd, yr aeth efe yn ebrwydd ymaith.

12A daethant â’r bachgen yn fyw, a chysurwyd hwynt yn ddirfawr.

13A nyni wedi myned o’r blaen at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr oddiyno gymmeryd i fynu Paul, canys felly yr appwyntiasai pan ar fedr myned ei hun ar ei draed.

14A phan gyfarfu efe â ni yn Assos, wedi ei gymmeryd ef i fynu, daethom i Mitulene.

15Ac wedi hwylio oddi yno, trannoeth y daethom cyferbyn â Chios; a thradwy troisom i mewn i Samos, ac ar y dydd canlynol daethom i Miletus;

16canys penderfynasai Paul hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia, canys brysiai, os byddai bosibl iddo, fod ar ddydd y Pentecost yn Ierwshalem.

17Ac o Miletus y danfonodd i Ephesus, a galwodd atto henuriaid yr eglwys; a phan ddaethant atto, dywedodd wrthynt,

18Chwi a wyddoch er y dydd cyntaf y rhoddais fy nhraed yn Asia,

19pa fodd y bu’m gyda chwi yr holl amser, gan wasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau y rhai a ddigwyddasant i mi trwy gynllwynion yr Iwddewon,

20y modd nad atteliais ddim o’r pethau buddiol, fel na fynegwn hwynt i chwi a’ch dysgu ar gyhoedd ac o dŷ i dŷ;

21gan dystiolaethu i Iwddewon a Groegiaid hefyd edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.

22Ac yn awr, wele myfi yn rhwym yn yr yspryd wyf yn myned i Ierwshalem, heb wybod y pethau a ddigwyddant i mi ynddi,

23oddieithr fod yr Yspryd Glân, ymhob dinas, yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.

24Eithr dim cyfrif yn y byd yr wyf yn ei wneud o’m heinioes, fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y cyflawnwyf fy rhedfa a’r weinidogaeth yr hon a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, ac y tystiolaethwyf efengyl gras Duw.

25Ac yn awr, wele, myfi a wn na welwch chwi oll mo’m gwyneb mwyach, ymhlith y rhai y tramwyais yn pregethu’r deyrnas;

26canys tystiolaethu yr wyf i chwi y dydd heddyw mai glân wyf oddi wrth waed pawb;

27canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gynghor Duw.

28Cymmerwch ofal am danoch eich hunain, ac am yr holl braidd yn yr hwn yr Yspryd Glân a’ch gosododd chwi yn esgobion, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a ennillodd Efe trwy Ei waed Ef Ei hun.

29Myfi a wn y daw i mewn i’ch plith ar ol fy ymadawiad fleiddiau gorthrymmus, nad arbedant y praidd.

30Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd dynion yn llefaru pethau gwyr-draws er mwyn tynnu ymaith y disgyblion ar eu hol.

31Gan hyny, gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais â chynghori, gyda dagrau, bob un o honoch.

32Ac yn awr eich gorchymyn yr wyf i Dduw ac i air Ei ras Ef, yr hwn sydd abl i’ch adeiladu ac i roddi yr etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.

33Arian neu aur neu wisg neb, ni chwenychais.

34Chwi eich hunain a wyddoch mai i’m cyfreidiau, ac i’r rhai oedd gyda mi, y gwasanaethodd y dwylaw hyn.

35Ymhob peth y rhoddais i chwi siampl, mai wrth lafurio felly y mae rhaid cynnorthwyo’r gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, iddo Ef Ei hun ddywedyd, “Dedwydd yw rhoddi rhagor derbyn.”

36Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a dodi ei liniau i lawr, ynghyda hwynt oll y gweddïodd;

37a mawr oedd gwylofain pawb;

38ac wedi syrthio ar wddf Paul, cusanent ef, gan ymofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai nad ydynt mwyach ar fedr gweled ei wyneb ef; ac hebryngasant ef i’r llong.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help