1Ac wedi myned o’r Iesu allan o’r deml, ar Ei ffordd yr oedd, a daeth Ei ddisgyblion i ddangos Iddo adeiladau y deml.
2Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir y dywedaf wrthych, Ni adewir yma, er dim, garreg ar garreg yr hon ni ddattodir.
3Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd, daeth Ei ddisgyblion Atto o’r neilldu, gan ddywedyd, Dywaid wrthym, pa bryd y mae’r pethau hyn i fod, a pha beth fydd arwydd Dy ddyfodiad ac o ddiwedd y byd.
4A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt,
5Edrychwch na fo i neb eich dwyn chwi ar gyfeiliorn, canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist; a llawer a ddygant hwy ar gyfeiliorn.
6Ac yr ydych ar fedr clywed am ryfeloedd, a son am ryfeloedd. Edrychwch na chyffroer chwi, canys rhaid iddynt ddigwydd; ond nid etto y mae’r diwedd;
7cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd newynau a daeargrynfaau mewn mannau.
8Yr holl bethau hyn ydynt ddechreuad gwewyr.
9Yna y traddodant chwi i orthrymder,
10a lladdant chwi, ac y byddwch yn gâs gan yr holl Genhedloedd o achos Fy enw.
11Ac yna y tramgwyddir llawer, ac y naill y llall a draddodant, ac y casant y naill y llall. A llawer o au-brophwydi a gyfodant, ac a ddygant lawer ar gyfeiliorn;
12ac o herwydd amlhau o anghyfraith, yr oera cariad y rhan fwyaf;
13ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig.
14A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas yn yr holl fyd, yn dystiolaeth i’r holl Genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.
15Gan hyny, pan weloch y ffieidd-dra anghyfaneddus, yr hwn a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd,
16(yr hwn sy’n darllen, dealled,) yna y rhai yn Iwdea, ffoant i’r mynyddoedd;
17a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y pethau o’i dŷ,
18a’r hwn yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei gochl.
19A gwae y rhai a chanddynt yn y groth, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny.
20A gweddïwch na byddo eich ffoedigaeth y gauaf nac ar Sabbath,
21canys bydd, yr amser hwnw, orthrymder mawr, y fath na ddigwyddodd o ddechreu’r byd hyd yn awr, ac na fydd ddim o gwbl.
22Ac oni bai byrhau’r dyddiau hyny, ni fyddai gadwedig un cnawd oll; ond o achos yr etholedigion byrheir y dyddiau hyny.
23Yr amser hwnw, os wrthych y dywaid neb, Wele, llyma y Crist, neu Llyma, na chredwch;
24canys cyfyd gau-Gristiau a gau-brophwydi; a rhoddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i ddwyn ar gyfeiliorn, pe bai bosibl, hyd yn oed yr etholedigion.
25Wele, rhag-ddywedais wrthych.
26Os, gan hyny, dywedant wrthych, Wele, yn yr anialwch y mae, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd, na chredwch;
27canys fel y mae’r fellten yn dyfod allan o’r dwyrain ac yn ymddangos hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
28Pa le bynnag y bo’r gelain, yno y cyd-gesglir yr adar rheibus.
29Ac yn uniawn ar ol gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r ser a syrthiant o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaear: a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau’r nef gyda nerth a gogoniant mawr;
31a denfyn Efe Ei angylion gydag udgorn mawr-leisiog, a chasglant ynghyd Ei etholedigion Ef o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd.
32Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan yw ei gangen yn awr yn dyner, ac ei ddail a fwrw efe allan,
33gwyddoch mai agos yw’r haf: felly chwithau hefyd, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch mai agos yw Efe, wrth y drysau.
34Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd.
35Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond fy ngeiriau nid ant heibio ddim.
36Ond am y dydd hwnw, a’r awr, nid oes neb a ŵyr, nac angylion y nefoedd, nac y Mab, neb oddieithr Y Tad yn unig.
37Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn;
38canys yn yr un modd ag yr oeddynt yn y dyddiau hyny, y rhai cyn y diluw, yn bwytta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodi, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch,
39ac ni wybuant nes y daeth y diluw ac y cymmerth hwynt oll; felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
40Yr amser hwnw dau fydd yn y maes, un a gymmerir, a’r llall a adewir;
41dwy fydd yn malu â’r felin, un a gymmerir, a’r llall a adewir.
42Gwyliwch, gan hyny, gan na wyddoch pa awr y mae eich Arglwydd yn dyfod.
43A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ ym mha wyliedwriaeth y byddai’r lleidr yn dyfod, gwyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44Am hyny, chwithau hefyd, byddwch barod; canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
45Pwy, ynte, yw’r gwas ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd?
46Gwyn ei fyd y gwas hwnw yr hwn, wedi dyfod o’i arglwydd, a gaiff efe yn gwneuthur felly.
47Yn wir y dywedaf wrthych, Ar ei holl eiddo y gesyd efe ef.
48Ond os dywaid y gwas drwg accw yn ei galon, Oedi y mae fy arglwydd,
49a dechreu curo ei gydweision, a bwytta ac yfed gyda’r meddwon,
50daw arglwydd y gwas hwnw ar ddydd nad yw efe yn disgwyl,
51ac ar awr na ŵyr efe; a gwahana efe ef, a’i ran ef a esyd efe gyda’r rhagrithwyr, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.