1Os oes, gan hyny, ryw ddiddanwch yng Nghrist, os rhyw gysur cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw ymysgaroedd a thosturiaethau,
2cyflawnwch fy llawenydd i, fel yr un peth y synioch, gyda’r un cariad genych, ac un enaid genych, ac yr un peth yn eich synied.
3Na fydded dim trwy ymbleidio, na thrwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd yn tybied eich gilydd yn rhagori ar chwi eich hunain;
4nid yn edrych, bob un, at eich pethau eich hunain, eithr hefyd at yr eiddo eraill, bob un o honoch.
5Hyn syniwch ynoch, yr hyn oedd hefyd yng Nghrist Iesu,
6yr Hwn, ac Efe yn ffurf Duw, nid peth i’w gipio a dybiodd Efe fod yn gystal â Duw;
7eithr Ef Ei hun a waghaodd Efe, ffurf gwas yn cael ei chymmeryd Ganddo, ac yng ngyffelybiaeth dynion Ei eni;
8a chan Ei gael mewn dull fel dyn, gostyngodd Ei hun, gan fyned yn ufudd hyd angau, ïe, angau’r groes.
9O herwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd Ef, a rhoddes Iddo yr enw sydd goruwch pob enw,
10fel yn enw’r Iesu y byddai i bob glin blygu, o’r nefolion a’r daearolion, a’r tan-ddaearolion;
11ac y byddai i bob tafod gyffesu mai’r Arglwydd yw Iesu Grist, er gogoniant Duw Dad.
12Felly, fy anwylyd, fel bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain;
13canys Duw yw’r Hwn sy’n gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu, er Ei foddlonrwydd.
14Gwnewch bob peth heb rwgnach ac ymresymiadau,
15fel y byddoch yn ddianaf a diniweid, yn blant Duw heb fefl ynghanol cenhedlaeth wyrog a throfaus, ymhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd;
16yn cynnal gair y bywyd; yn ymffrost i mi yn nydd Crist, mai nid yn ofer y rhedais, ac nid yn ofer y llafuriais.
17Eithr, ac os offrymmir fi ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenychu yr wyf ac yn cyd-lawenychu a’r oll o honoch;
18ac yn yr un modd llawenychwch chwi hefyd, a chyd-lawenychwch â mi.
19A gobeithio yr wyf yn yr Arglwydd Iesu, ddanfon Timothëus ar fyrder attoch, fel y’m llonner gan wybod eich helynt:
20canys nid oes genyf neb o gyffelyb enaid,
21yr hwn a wir-brydera am eich helynt, canys pawb, y pethau hwy eu hunain a geisiant,
22ac nid pethau Iesu Grist: ond y prawf o hono ef a wyddoch, mai fel i dad y gwasanaetha plentyn, ynghyda mi y gwasanaethodd tua’r Efengyl.
23Hwn, ynte, gan hyny, y gobeithiaf ei ddanfon, pan welwyf fy helynt i, allan o law;
24ac hyderaf yn yr Arglwydd y bydd i mi fy hun ddyfod ar fyrder.
25Ac angenrheidiol a dybiais ddanfon attoch Epaphroditus, y brawd ac fy nghydweithiwr a chyd-filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i’m cyfreidiau,
26canys hiraethu am yr oll o honoch yr oedd efe, ac yn athrist iawn o herwydd clywed o honoch y bu efe glaf;
27canys claf y bu efe yn agos i angau; eithr Duw a drugarhaodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, fel na fyddai genyf dristwch ar dristwch.
28Yn ddyfalach, gan hyny, y danfonais ef, fel wedi ei weled ef drachefn y llawenychech, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.
29Derbyniwch ef, gan hyny, yn yr Arglwydd, gyda phob llawenydd; a’r cyfryw rai, daliwch hwynt mewn anrhydedd:
30canys oblegid gwaith Crist, hyd at angau y nesaodd, gan beryglu ei einioes fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn y gwasanaeth tuag attaf fi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.