Eshaiah 37 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXVII.

1A bu, pan glybu ’r Brenhin Hezecïah (hynny) efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachlïain, ac a aeth i dŷ Iehofah.

2Ac a anfonodd Elïacim y penteulu, a Shebna yr ysgrifenydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachlïain, at Eshaiah mab Amots, y prophwyd.

3A hwy a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Hezecïah, Diwrnod cyfyngder a cherydd a dirmyg (yw) ’r dydd hwn, canys daeth y plant hyd yr enedigaeth, a grym nid (oes) i esgor.

4O na wrandawai Iehofah, dy Dduw di, eiriau Rabshaceh, yr hwn a anfonodd Brenhin Assyria ei feistr, i gablu ’r Duw byw, ac na cheryddai ef am y geiriau a glybu Iehofah dy Dduw! A dyrcha di weddi dros y gweddill sydd i’w gael.

5A daeth gweision y Brenhin Hezecïah at Eshaiah.

6A dywedodd 2Eshaiah 1wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed Iehofah, Nac ofna rhag y geiriau a glywaist, (trwy) y rhai y cablodd gweision Brenhin Assyria Fi.

7Wele Fi yn rhoddi ynddo ef yspryd, ac efe a glyw hanes, ac a ddychwel i’w wlad; a Mi a wnaf iddo syrthio trwy gleddyf yn ei wlad ei hun.

8Yna y dychwelodd Rabshaceh a chafodd Frenhin Assyria yn rhyfela yr erbyn Libnah, canys efe a glywsai ddarfod oddi fyned o Lachish.

9A chlywodd (Sennacherib) am Tirhacah, Frenhin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a ddaeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd efe (hynny), efe a anfonodd genhadau at Hezecïah gan ddywedyd,

10Fel hyn y dywedwch wrth Hezecïah, Brenhin Iwdah, gan ddywedyd, Na thwylled dy 2Dduw 1di yr hwn yr wyt ti yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Ierwshalem yn llaw Brenhin Assyria.

11Wele ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Assyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?

12A waredodd 2duwiau ’r 3cenhedloedd 1hwynt, y rhai a ddinystriodd fy nhadau (sef) Gozan, a Haran, a Retseph, a meibion Eden y rhai (oedd) o fewn Thelassar?

13Lle (mae) brenhin Hamath, a brenhin Arphad, a brenhin dinas Sepharfaïm, Henah ac Ifah?

14A chymmerth Hezecïah y llythyrau o law y cenhadau, a darllenodd hwynt; ac efe a aeth i fynu i dŷ Iehofah;

15a lledodd Hezecïah hwynt ger bron Iehofah; A gweddïodd Hezecïah at Iehofah gan ddywedyd,

16O Iehofah y lluoedd, Duw Israel, yr Hwn wyt yn trigo rhwng y Cerubiaid, Tydi (yw) Efe, y Duw, Tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear;

17Tydi a wnaethost y nefoedd a’r ddaear; gogwydda, O Iehofah, Dy glust, a gwrando; agor, O Iehofah, Dy lygaid, a gwêl; a chlyw holl eiriau Sennacherib, y rhai a anfonodd efe i gablu ’r Duw byw:

18Yn ddïammeu, O Iehofah, anghyfanneddodd brenhinoedd Assyria yr holl genhedloedd a’u gwledydd,

19a chan roddi eu duwiau hwy mewn tân, canys nid Duwiau y rhai hynny, ond gwaith dwylaw dyn, coed a maen; am hynny y distrywiasant hwynt.

20Ac yr awr hon, O Iehofah, ein Duw, bydd iachawdwr i ni, attolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai Tydi (wyt) Iehofah, Tydi yn unig.

21Yna anfonodd Eshaiah, mab Amots, at Hezecïah gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Iehofah, Duw Israel, Yr hyn a weddiaist attaf yn erbyn Sennacherib, brenhin Assyria, Mi a glywais.

22Hwn yw ’r gair a lefarodd Iehofah yn ei erbyn ef,

Dirmygodd di, gwatwarodd y forwyn, merch Tsïon, di,

Ar dy ol di ei phen a ysgydwodd merch Ierwshalem;

23Pwy a ddifenwaist, ac a geblaist, ac yn erbyn pwy y dyrchefaist lef,

Ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? — Yn erbyn Sanct Israel.

24Trwy law dy genhadau difenwaist yr Arglwydd, a dywedaist,

 lliaws fy ngherbydau myfi a ddringais

Uchelder y mynyddoedd, ystlysau Lebanon;

A thorraf uchelder ei gedrwŷdd, ei ddewis ffynnidwŷdd;

Ac âf i’w gwrr eithaf, i goed ei ddoldir.

25Myfi a gloddiais ac a yfais ddyfroedd dïeithr,

A sychais â gwadnau fy nhraed holl afonydd y gwarchaëedig:

26Oni chlywaist, er ys talm 『2i Mi wneuthur』 y 『1peth hyn,』

Ac er y dyddiau gynt i Mi ei lunio?

Yn awr y dygais ef i ben, fel y byddit i ddistrywio

Cenhedloedd rhyfelgar, dinasoedd caerog.

27Am hynny eu trigolion (oeddynt) gwttoglaw, hwy a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd,

Oeddynt (megis) gwellt y maes a gwŷrdd-lysiau,

(Fel) glaswellt ar bennau tai, ac ŷd wedi deifio cyn bod ar ei droed:

28Ond dy eisteddiad, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn a adnabum,

A’th ymgynddeiriogi i’m herbyn:

29Am it’ ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th draws-falchedd esgyn i’m clustiau,

Am hynny y rhoddaf Fy mâch yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau,

Ac y ’th ddychwelaf di ar hŷd y ffordd y daethost ar hŷd-ddi.

30A hyn fydd i ti (Hezecïah) yn arwydd;

Bwytta eleni yr hyn a dyfo o hono ei hun,

Ac yn yr 2ail 1flwyddyn yr attwf,

Ac yn y 2drydedd 1flwyddyn hauwch a medwch,

A phlennwch winllanoedd, a bwyttêwch eu ffrwyth hwynt.

31Ac fe chwannega ’r rhai dïangol o dŷ Iwdah, y rhai a adewir,

I wreiddio i waered, a dwyn ffrwyth i fynu.

32Canys o Ierwshalem yr aiff allan weddill,

A’r rhai dïangol o fynydd Tsïon;

Zêl Iehofah y lluoedd a wnaiff hyn.

33Am hynny fel hyn y dywed Iehofah am frenhin Assyria:

Ni ddaw efe i’r ddinas hon,

Ac nid ergydia yno saeth,

Ac ni ddyd o’i blaen hi darian,

Ac ni fwrw i’w herbyn glawdd.

34Ar hŷd y ffordd y daeth efe, ar hŷd-ddi y dychwel,

Ac i’r ddinas hon ni ddaw, medd Iehofah;

35A Mi a ddiffynaf y ddinas hon, i fod yn Iachawdwr iddi,

Er Fy mwyn Fy hun, ac er mwyn Dafydd Fy ngwas.

36Yna ’r aeth angel Iehofah allan, a tharawodd yngwersyll yr Assyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd; a phan gyfodasant yn fore drannoeth, ac wele hwynt oll yn gelanedd meirwon.

37Yna yr ymadawodd, ac yr aeth, ac y dychwelodd Sennacherib, Brenhin Assyria, ac y trigodd yn Ninefeh.

38A bu, ac efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sharetser, ei feibion, ei daraw ef â chleddyf; a hwy a ddïangasant i wlad Armenia. A theyrnasodd Esarhàdon, ei fab, yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help