1Psalm.
Cenwch i Iehofah ganiad newydd, canys rhyfeddodau a wnaeth Efe,
Iachawdwriaeth Iddo a wnaeth Ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd;
2Hyspysodd Iehofah Ei iachawdwriaeth,
Yngolwg y cenhedloedd y datguddiodd Efe Ei gyfiawnder,
3Cofiodd Ei drugaredd a’i ffyddlondeb, i dŷ Israel,
Gwelodd holl gyrrau’r ddaear iachawdwriaeth ein Duw!
4Codwch udgorn-floedd i Iehofah, O’r holl ddaear,
Llefwch a llawen-genwch, a tharewch y tannau,
5Tarewch y tannau i Iehofah, ar y delyn,
—Ar y delyn, ac â llef salm; —
6Ar udgyrn a sain cornet,
Llafar-genwch o flaen y Brenhin Iehofah!
7Rhued y môr a’i gyflawnder,
Y byd a’r trigiannyddion ynddo;
8Bid i’r afonydd guro dwylaw,
Yn gwbl oll bid i’r mynyddoedd lawen-ganu,
9O flaen Iehofah,—Ei fod yn dyfod i farnu’r ddaear,
Y barna Efe y byd, mewn cyfiawnder,
A’r bobloedd, mewn uniondeb!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.