Eshaiah 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIV.

1 Canys fe dosturia Iehofah wrth Iacob,

Ac efe a ddethol etto Israel,

Ac a bair iddynt orphwys ar eu tir eu hunain;

Ac fe ymgyssyllta ’r dïeithr â hwynt,

A hwy a lynant wrth dŷ Iacob.

2Ac fe gymmer y bobloedd hwynt, ac eu dwg i’w lle eu hunain,

A meddianna tŷ Israel hwynt yn nhir Iehofah

Yn weision ac yn forwynion;

A hwy a gaethiwant y rhai a ’u caethiwodd hwythau,

Ac a lywodraethant ar eu gorthrymwŷr.

3A bydd yn y dydd hwnnw, y rhydd Iehofah lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid ac oddi wrth dy flinder ac oddiwrth y gwasanaeth caled a roddwyd arnat, a thi a gymmeri ’r ymadrodd hwn yn erbyn brenhin Babilon,

4ac a ddywedi,

Pa wedd y peidiodd y gorthrymmwr, y peidiodd yr hon a godasai ’r aur,

5Drylliodd Iehofah ffon yr anwiriaid, teyrnwialen y llywiawdwŷr.

6A’r hwn oedd yn taro’r bobloedd mewn digllonedd â tharawiad dibaid,

Yr hwn oedd yn llywodraethu’r cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.

7Gorphwysodd a llonyddodd yr holl ddaear, bloeddiasant âg hyfryd gân;

8Hyd yn oed y ffynnidwŷdd a lawenhasant yn dy erbyn, (a) chedrwŷdd Lebanon (gan ddywedyd)

Er pan orweddaist nid esgynodd cymmynydd i’n herbyn.

9Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos i gyfarfod (â thi) wrth dy ddyfodiad;

Hi a ddeffrôdd erot ti y cedyrn meirw, holl dywysogion y ddaear;

Hi a beris godiad oddi ar eu gorseddfaoedd i holl frenhinoedd y cenhedloedd;

10Hwy oll a lefarant ac a ddywedant wrthyt,

Hyd yn oed tithau, a wanhâwyd ti fel ninnau? ai i nyni y’th gyffelybwyd di?

11A disgynwyd 『2dy falchder』 i 1uffern, a thrwst dy nablau?

A daenwyd y pryf o danat? a ’th gwrlid, ai ’r abwydyn (yw)?

12Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lwsiffer, mab y wawr ddydd!

Y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a orchfygaist y cenhedloedd!

13Ond ti a ddywedaist yn dy galon, I’r nefoedd y dringaf,

Goruwch ser Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa,

A mi a eisteddaf ym mynydd y Cyfarfod, yn ystlysau’r gogledd.

14Dringaf yn uwch nag uchelder y cymmylau, tebyg fyddaf i ’r Goruchaf.

15Pa wedd hyd at Uffern y’th ddisgynwyd, i ystlysau ’r ffos!

16Y rhai a’th welant a edrychant yn graff arnat, ac a’th ystyriant (gan ddwedyd)

Ai hwn yw’r gwr a wnaeth i’r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd,

17A osododd y byd fel anialwch, ac『 2a ddinystriodd』『1ei ddinasoedd,』

A’i garcharorion ni ollyngodd yn rhŷdd i’w cartref?

18Holl frenhinoedd y cenhedloedd, hwy oll

Sy’n gorwedd mewn gogoniant, pob un yn ei dŷ ei hun;

19Eithr tydi a fwriwyd allan o ’th fedd, fel pren ffiaidd,

Wedi dy wisgo â’r claddedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf,

Y rhai sy’n disgyn i gerrig y ffos, fel celain fathredig.

20Ni ’th unir di â hwynt mewn claddiad,

O herwydd dy dir a ddifethaist, dy bobl a leddaist.

Ni enwir, yn dragywydd, hâd yr annuwiol.

21Darperwch i’w feibion ef laddfa, am anwiredd eu tadau,

Rhag codi o honynt, a goresgyn y tir, a llenwi gwyneb y byd â dinasoedd.

22Canys Mi a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Iehofah y lluoedd,

Ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill

A mab ac ŵyr, medd Iehofah y lluoedd;

23Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i’r draenog, ac yn byllau dyfroedd,

Ac ysgubaf hi âg ysgubau distryw, medd Iehofah y lluoedd.

24Tyngodd Iehofah y lluoedd gan ddywedyd,

Dïau, megis yr amcenais felly y bydd,

Ac megis y bwriedais hynny a saif,

25(Sef) dryllio ’r Assyriad yn Fy nhir, ac ar Fy mynyddoedd ei fathru.

Yna y cilia oddi arnynt ei iau ef,

A’i faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt a symmudir.

26Hwn yw ’r cyngor a gyngorwyd am yr holl ddaear,

A hon yw ’r llaw a estynwyd ar yr holl genhedloedd,

27O herwydd Iehofah y lluoedd a gyngorodd, a phwy a’i diddymma?

A ’i law Ef a estynwyd, a phwy a’i trŷ yn ol?

28 yn y flwyddyn y bu farw y brenhin ahaz y bu yr ymadrodd hwn,

29Na lawenycha di, Philistia oll,

O herwydd torri o’r wialen a’th darawodd,

Canys o wreiddyn y sarph y daw allan wiber,

A’i ffrwyth hi (fydd) sarph danllyd hedegog,

30Canys fe ymbortha cynblant y tlodion,

A’r rhai anghenus yn ddïogel a orweddant;

Ond efe a ladd â newyn dy wreiddyn di,

A’th weddill di a ddieneidia efe.

31Uda, borth! gwaedda, ddinas!

Toddwyd di, Philistia oll;

Canys o’r gogledd y mae mŵg yn dyfod,

Ac ni bydd gwib-grwydriad yn ei fyddinoedd ef.

32A pha beth a attebir i genhadau y genedl?

Iehofah a seiliodd Tsïon,

Ac ynddi y noddir trueiniaid Ei bobl Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help