1Paul, Apostol i Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Timothëus ein brawd, at eglwys Dduw y sydd yn Corinth, ynghyda’r saint oll y sydd yn Achaia;
2gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,
4Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch, yr Hwn sydd yn ein diddanu yn ein holl orthrymder, fel y gallom ddiddanu y rhai sydd ymhob gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn yr ydym ein hunain yn cael ein diddanu gan Dduw.
5Canys fel tros fesur y mae dioddefiadau Crist i ni, felly trwy Grist tros fesur y mae ein diddanwch.
6A pha un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er eich diddanwch chwi a’ch iachawdwriaeth y mae; neu ein diddanu yr ydys, er eich diddanwch chwi y mae, yr hwn sy’n gweithio yng
7ngoddefiad yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef. Ac ein gobaith sydd ddiymmod am danoch,
8gan wybod o honom fel mai cyfrannogion ydych o’r dioddefiadau, felly hefyd yr ydych o’r diddanwch. Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddigwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, a thu hwnt i’n gallu y pwyswyd arnom,
9hyd onid oeddym yn anobeithio hyd yn oed o fyw; eithr ni ein hunain, ynom ein hunain yr oedd genym atteb marwolaeth fel na byddem yn ymddiried ynom ein hunain,
10eithr yn Nuw yr Hwn sy’n cyfodi’r meirw; yr Hwn, o’r cyfryw ddirfawr farwolaeth a’n gwaredodd, ac a’n gweryd;
11yn yr Hwn y gobeithiwn y gweryd ni etto hefyd, a chwithau hefyd yn cyd-gynnorthwyo trosom â gweddi, fel am y rhodd i ni trwy weddi llawer o bersonau, y rhodder diolch gan lawer trosom.
12Canys ein hymffrost yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod mai mewn sancteiddrwydd a symlrwydd duwiol, nid mewn doethineb cnawdol eithr yng ngras Duw yr ymddygasom yn y byd, a mwy tros fesur tuag attoch chwi.
13Canys nid pethau eraill yr ydym yn eu hysgrifenu attoch na’r rhai yr ydych un ai yn eu darllen neu hyd yn oed yn eu cydnabod,
14a gobeithiaf mai hyd y diwedd y cydnabyddwch; fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai eich ymffrost ydym, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn nydd ein Harglwydd Iesu.
15Ac yn y goel hon yr oeddwn yn ewyllysio o’r blaen ddyfod attoch,
16fel y byddai ail ras i chwi, a thrwoch chwi dramwy i Macedonia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng genych chwi i Iwdea.
17Wrth ewyllysio hyn, ynte, ai ysgafnder yn wir a arferais? Y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu fel y byddai gyda mi yr Ie, ïe, a’r Nage, nage?
18Ond fel mai ffyddlawn yw Duw, ein hymadrodd wrthych nid yw “Ie” a “Nage:” canys Mab Duw, Iesu Grist,
19yr Hwn a bregethwyd yn eich plith genym, genyf fi a Silfanus a Thimothëus, nid ydoedd “Ie” a “Nage,” eithr “Ie” ydoedd ynddo Ef;
20canys cynnifer ag yw addewidion Duw, ynddo Ef y mae’r “Ie;” a chan hyny, trwyddo Ef hefyd y mae’r Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.
21A’r hwn sydd yn ein sefydlu ni gyda chwi yng Nghrist, ac a’n henneiniodd,
22yw Duw, ac a’n seliodd, ac a roes ernes yr Yspryd yn ein calonnau.
23Ac myfi, galw Duw yn dyst ar fy enaid yr wyf mai gan eich arbed ni ddaethum etto i Corinth:
24nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, eithr cyd-weithwyr i’ch llawenydd ydym; canys trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.