Psalmau 32 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXII.

1(Psalm) Dafydd. Awdl addysgiadol.

O ddedwyddwch (y neb i’r hwn) y maddeuwyd trosedd,

Y gorchuddiwyd pechod!

2O ddedwyddwch y dyn na chyfrif Iehofah iddo fai,

Ac nad (oes) yn ei yspryd dwyll!

3Tra y tewais, nychodd fy esgyrn,

Yn fy rhuad ar hyd y dydd;

4Canys dydd a nos, trom arnaf oedd Dy law,

Tröwyd fy sudd yn sychder haf. Selah.

5Fy mhechod a addefais Wrthyt, a ’m pechod ni chuddiais,

Dywedais, “Addefaf fy anwiredd i Iehofah,”

A Thydi a faddeuaist fai fy mhechodau. Selah.

6Am hyn, ymbilied pob duwiol â Thydi yn yr amser (y’th) geffir!

Yn ddïau, yn llifeiriant dyfroedd mawrion,

Ni chânt gyrhaedd hyd atto ef.

7Tydi (ydwyt) orchudd i mi, rhag cyfyngder y’m cedwi,

A llawen-ganiadau ymwared y’m hamgylchyni!

8“Cyfarwyddaf di, dysgaf di yn y ffordd yr elych,

Ymgynghoraf (drosot), arnat (y bydd) Fy llygad.”

9Na fyddwch fel march, fel mul heb ddeall!

Ag afwyn a ffrwyn, ei addurn, (y mae’n rhaid) ei rwymo,

Pryd na neshâo attat:

10Llawer o ofidiau (sydd) i’r annuwiol,

Ond a ymddiriedo yn Iehofah, rhadlondeb a’i cylchyna ef!

11Llawenhêwch yn Iehofah, a gorfoleddwch, O gyfiawn rai,

Llawen-genwch, yr holl rai uniawn o galon!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help