Psalmau 146 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CXLVI.

1Molwch Iah!

Mola Iehofah, O fy enaid!

2Molaf Iehofah yn fy myw,

Canaf salmau i’m Duw tra fyddwyf!

3Na hyderwch ar dywysogion,

Ar fab dyn yr hwn (sydd) heb iachawdwriaeth ynddo;

4—Allan yr â ei anadl, dychwel efe i’w ddaear,

(Ac) yn y dydd hwnnw y derfydd am ei amcanion!—

5Gwŷn fyd yr hwn (y mae) Duw Iacob yn gymmorth iddo,

(Sydd) â’i obaith ar Iehofah ei Dduw,

6Yr Hwn a wnaeth nefoedd a daear,

Y môr a’r oll (sydd) ynddynt;

Yr Hwn sy’n cadw ffyddlondeb yn dragywydd;

7Yr Hwn sy’n gwneuthur uniondeb i’r gorthrymmedig rai,

Yn rhoddi bara i’r newynog rai;

Iehofah, Gollyngwr y carcharorion,

8Iehofah, Agorwr (llygaid) y deillion,

Iehofah, Sythwr y crymmedigion,

Iehofah, Carwr y cyfiawn rai,

9Iehofah, Ceidwad y dïeithriaid!

Yr amddifad a’r weddw a gadarnhâ Efe,

A ffordd yr annuwiolion a wyr-dry Efe!

10Teyrnasa Iehofah yn dragywydd,

Dy Dduw di, Tsïon, dros genhedlaeth a chenhedlaeth!

Molwch Iah!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help