Eshaiah 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

IX.

1Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch

A welsant oleuni mawr,

Y rhai oedd yn trigo yn nhir cysgod angau

Goleuni a lewyrchodd arnynt.

2Amlhëaist y genedl, ychwanegaist ei llawenydd;

Llawenychant ger dy fron megis â llawenydd amser cynhauaf,

Megis y llawenychant wrth rannu yspail:

3Canys iau ei baich, a ffon ei hysgwydd,

Gwïalen ei gorthrymmwr, a ddrylliaist, megis yn nydd Midian.

4Canys bottasau y rhyfelwr arfog yn y frwydr,

A’r wisg wedi ei thrybaeddu mewn gwaed,

A fyddant i’w llosgi, yn ymborth tân;

5Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni,

A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef,

A gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr,

Y Duw cadarn, Tad tragywyddoldeb, Tywysog tangnefedd.

6Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni (bydd) diwedd,

Ar orseddfa Dafydd ac ar ei frenhiniaeth ef,

I’w sefydlu hi, ac i’w chadarnhâu,

 barn ac â chyfiawnder, o’r pryd hyn, a hyd byth.

Zêl Iehofah y lluoedd a wna hyn.

7Gair a anfonodd Iehofah yn erbyn Iacob,

Ac efe a syrthiodd ar Israel.

8A gwybydd y bobl oll,

(Sef) Ephraim a thrigiannydd Samaria;

O herwydd mewn balchder, ac mewn mawredd calon, iddynt ddywedyd,

9Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn;

Y sycamorwŷdd a dorrwyd,

Ond yn gedrwŷdd ni a’u newidiwn.

10Gan hynny y dyrchafa Iehofah dywysogion Retsin yn eu herbyn hwynt,

A’u gelynion a arfoga Efe,

11Syria o’r blaen, a’r Philistiaid o’r ol:

A hwy a ysant Israel ym mhob cwr.

Er hyn i gyd ni ddychwelodd Ei lid Ef,

Ond etto (y mae) Ei law Ef yn estynedig:

12Canys y bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u tarawodd,

Ac Iehofah y lluoedd ni cheisiant;

13Am hynny y tyr Iehofah oddi wrth Israel ben a chynffon,

Cangen a brwynen yn yr un dydd.

14Yr henwr, a’r dyrchafedig ei wyneb, efe (yw) ’r pen,

A’r prophwyd sydd yn dysgu celwydd, efe (yw) ’r gynffon.

15Canys y mae cyfarwyddwŷr y bobl hyn yn peri (iddynt) gyfeiliorni,

A’r cyfarwyddedig a lyngeir.

16Am hynny yn eu gwŷr ieuaingc nid ymlawenhâ Iehofah,

Ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia Efe,

Canys pob un o honynt (sydd) ragrithiwr a drygionus,

A phob genau yn traethu ynfydrwydd.

Er hyn oll ni ddychwelodd Ei lid Ef,

Ond etto (y mae) Ei law Ef yn estynedig.

17Canys llysg 2anwiredd『1fel tân,』

Y mieri a’r drain a ysa efe,

Ac efe a gynneu yn nyrysni ’r coed,

A hwy a ddyrchafant golofnau o fŵg.

18Gan ddigofaint Iehofah y lluoedd y tywylla ’r ddaear,

Ac y bydd y bobl fel ymborth tân;

Ei 2frawd 3nid 4eiriach 1dyn,

19Ond efe a gipia ar y llaw ddehau, ac a newyna,

Ac a fwytty ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt;

Pawb cnawd eu cymmydog a fwyttânt,

20Mannasseh Ephraim, ac Ephraim Mannasseh;

Hwythau ynghŷd yn erbyn Iwdah;

Er hyn oll ni ddychwelodd Ei lid Ef,

Ond etto (y mae) Ei law Ef yn estynedig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help